Youf Gang yn plannu coed i nodi’r jiwbilî
3ydd Mawrth 2022
Roeddwn yn falch o weld aelodau o Youf Gang Shaftsbury yn ymweld â Chwmbrân yn ystod hanner tymor, gan gynorthwyo Arglwydd Raglaw Gwent i blannu coed i nodi Jiwbilî Arian y Frenhines.
Gweithiodd deg o blant rhwng saith a 13 oed yn galed i blannu mwy na 100 o goed, ac yna cafwyd prynhawn o chwaraeon a gweithgareddau eraill.
Mae Youf Gang Shaftsbury yn gaffaeliad enfawr i'r gymuned yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc roi cynnig ar brofiadau newydd, gwneud ffrindiau newydd, datblygu sgiliau newydd a magu hyder.
Da iawn i bawb sy'n gysylltiedig.