Ymweliadau â safleoedd golchi ceir yn helpu i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern
Cafodd dros 40 o bobl eu diogelu gan swyddogion fel rhan o ymgyrch sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern yng Ngwent a ledled gwledydd Prydain.
Cafodd 44 o bobl o Went eu diogelu fel rhan o ymgyrch genedlaethol sy’n brwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern a helpu’r rhai sydd mewn perygl o brofi cam-fanteisio.
Roedd Ymgyrch Aident, dan arweiniad yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, yn canolbwyntio ar safleoedd golchi ceir, gan ddangos bod y troseddau yma’n gallu digwydd o flaen ein trwynau yn aml iawn.
Ymwelodd tîm caethwasiaeth fodern Heddlu Gwent â 16 safle golchi ceir ar draws eu hardal yn ystod yr ymgyrch, ac mae mwy o ymweliadau wedi’u trefnu i godi ymwybyddiaeth o’r math yma o drosedd.
Meddai PC Stephen Jones o’r tîm caethwasiaeth fodern: “Bydd ein tîm caethwasiaeth fodern yn parhau i weithio’n ddiflino i nodi ac i ddarparu cyfleoedd diogelu i bobl sy’n agored i niwed ac sy’n dod yn ddioddefwyr ffurfiau amrywiol ar gam-fanteisio, a gaiff ei gyflawni gan bobl sy’n trin pobl eraill fel nwydd rhad.
“Rydyn ni’n annog y cyhoedd i ddod yn ymwybodol o arwyddion cam-fanteisio sydd i’w gweld ym mhob cymuned.
“Mae modd cuddio cam-fanteisio o dan ein trwynau. Stopiwch a meddyliwch: os yw’n ymddangos i chi fel bod angen cymorth ar rywun, rhowch wybod i ni am eich pryderon drwy un o’n sianeli.
“Gallai eich pryder a’ch adroddiad arwain at ymyriad a all achub bywyd.”
Mae caethwasiaeth fodern yn digwydd ar sawl ffurf wahanol, o lafur gorfodol i gam-fanteisio rhywiol, ac mae ymgyrchoedd cenedlaethol fel Aident wedi’u cynllunio i ddangos y gall ddigwydd yn unrhyw le.
Gan gydweithio gyda phartneriaid, bydd tîm caethwasiaeth fodern Heddlu Gwent yn gwneud ymweliadau diogelu i gefnogi ac i helpu’r bobl sydd mewn perygl o gam-fanteisio. Bydd y tîm hefyd yn gwneud gwaith gorfodi er mwyn targedu troseddwyr sy’n cam-fanteisio ar bobl sy’n agored i niwed.
Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yw arweinydd Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd Cymru gyfan ar gaethwasiaeth fodern; meddai: “Mae caethwasiaeth yn drosedd warthus sy’n cam-fanteisio ar rai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
“Mae’n debygol y byddwch chi’n dod ar draws dioddefwyr heb sylweddoli hynny, efallai mewn safle golchi ceir neu salon ewinedd.
“Mae’r dioddefwyr yma’n aml yn dod i wledydd Prydain gydag addewid am waith sy’n talu’n dda ac ansawdd bywyd gwell, ond maen nhw’n cael eu gorfodi i weithio am fawr ddim arian, neu ddim arian o gwbl, ac i fyw mewn amodau echrydus.
“Yna, mae yna rai sy’n cael eu masnachu i’r wlad i weithio ar gyfer gangiau cyffuriau, rhai sy’n cael eu gorfodi i waith rhyw, neu rai sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, neu iechyd meddwl, y mae pobl yn manteisio arnyn nhw er eu budd eu hunain.
“Rydyn ni’n arwain y ffordd yma yng Nghymru pan ddaw at fynd i’r afael a’r broblem hon, gan ddefnyddio dull ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, pedwar heddlu Cymru, a phartneriaid eraill.
“Serch hynny, nid plismona yn unig sy’n gyfrifol am daclo caethwasiaeth fodern.
“Os ydych chi’n amau bod caethwasiaeth yn digwydd, yn amau bod rhywbeth ddim yn iawn, neu os oes gennych chi bryderon am rywun, rhowch wybod amdano cyn gynted â phosib.”
Os oes gennych chi bryderon neu wybodaeth am gaethwasiaeth fodern neu fasnachu pobl, ffoniwch 101 neu anfonwch neges uniongyrchol i Heddlu Gwent ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gallwch hefyd gysylltu â llinell gymorth Caethwasiaeth Fodern drwy ffonio 08000 121 700 neu fynd i www.modernslaveryhelpline.org
Fel arall, gallwch gysylltu â Crimestoppers yn ddi-enw drwy 0800 555 111.
Gallwch hefyd adrodd am unrhyw bryderon sydd gennych chi drwy’r ap Safe Car Wash.