Ymosodiadau ar weithwyr brys yn cynyddu

30ain Mai 2022

Mae'n warthus gweld bod ymosodiadau ar weithwyr y gwasanaethau brys wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymroi i'n cadw ni'n ddiogel ac yn iach, ac maent yn haeddu gallu cyflawni eu dyletswydd heb gael eu bygwth, ymosod arnynt a'u sarhau.

Y llynedd, cofnodwyd 2,838 o ymosodiadau yn erbyn swyddogion yr heddlu, diffoddwyr tân, staff ambiwlans, gweithwyr y GIG a staff carchardai. Rwyf siŵr bod llawer mwy o ymosodiadau a digwyddiadau eraill heb gael eu hadrodd.

Mae bron i flwyddyn bellach ers i ynadon gael mwy o bwerau i fynd i’r afael â phobl sy'n ymosod ar weithwyr brys, gan gynnwys y pŵer i roi dedfrydau hirach o garchar. Gobeithiaf y gwelwn yn awr ostyngiad yn yr ymosodiadau gwarthus hyn wrth symud ymlaen.

Mae ein gweithwyr brys yn haeddu gallu cyflawni eu dyletswydd heb gael eu bygwth, ymosod arnynt a'u sarhau.