Ymateb y Comisiynydd i ddatganiad plismona cenedlaethol ar drais yn erbyn menywod a merched
Yr wythnos yma, mae penaethiaid Heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi amlinellu graddfa trais yn erbyn menywod a merched mewn datganiad plismona cenedlaethol.
Dyma a amlinellwyd yn y Datganiad Plismona Cenedlaethol ar Drais yn erbyn Menywod a Merched, a gomisiynwyd gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Coleg Plismona:
- Cofnodwyd mwy nac un filiwn o droseddau'n ymwneud â thrais yn erbyn menywod a merched, sy’n cyfrif am 20% o'r holl droseddau a gofnodwyd gan yr heddlu.
- Cynyddodd troseddau trais yn erbyn menywod a merched a gofnodwyd gan yr heddlu 37% rhwng 2018/23.
- Bydd o leiaf un o bob 12 menyw yn dioddef bob blwyddyn, a disgwylir i'r union nifer fod yn llawer uwch.
- Cynyddodd cam-drin rhywiol ac ecsbloetio plant mwy na 400% rhwng 2013 a 2022.
Yn ôl y datganiad, nid yn unig mae trais yn erbyn menywod a merched yn cynyddu, ond mae plismona'n gweld mathau mwyfwy cymhleth o droseddau sy'n achosi niwed sylweddol i ddioddefwyr ac i gymdeithas.
Mewn ymateb i'r datganiad plismona cenedlaethol, dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd: “Er fy mod yn croesawu'r camau cadarnhaol y mae plismona wedi eu cymryd i helpu i roi sylw i'r problemau yma, mae'r ystadegau’n llym iawn. Mae'n gwbl annerbyniol y bydd o leiaf un o bob 12 menyw yn profi trais bob blwyddyn yn y wlad yma, rhywbeth y bydd menywod a merched yn ei brofi yma yng Ngwent hefyd.
"Mae'r cyfrifoldeb am drais bob amser yn gorwedd gyda'r troseddwr. Fodd bynnag, er mwyn mynd i'r afael â'r ymddygiad yma, mae angen dull system gyfan arnom ni sy'n edrych ar y ffordd rydym yn atal yr ymddygiad yma'n ddiwylliannol. Rwyf yn bryderus iawn am boblogrwydd cynyddol dylanwadwyr ffiaidd sy'n dangos casineb at fenywod ar-lein a'r effaith maent yn ei chael ar feddyliau pobl ifanc am yr hyn sy’n ymddygiad derbyniol ac yn ymddygiad annerbyniol.
"Mae'n hollbwysig ein bod yn trwytho ein plant mewn gwerthodd cadarnhaol, trwy gydol eu blynyddoedd cynnar, i helpu i fynd i'r afael â'r problemau yma. Fel cymdeithas, mae'n rhaid i ni beidio â gwneud esgusodion dros ymddygiad ac agweddau gwael tuag at fenywod.
“Rwyf yn gobeithio y bydd datganiad plismona cenedlaethol heddiw'n cael ei ddefnyddio fel trobwynt i ddiogelwch menywod yn y DU. Mae gennym gydgyfrifoldeb i godi llais pan fyddwn yn gweld ymddygiad gwael er mwyn sicrhau ei fod yn annerbyniol yn gymdeithasol i unrhyw un wneud i fenyw neu ferch deimlo'n agored i niwed neu'n ofnus.
“Rwyf yn falch bod plismona, yn genedlaethol, wedi sicrhau hefyd bod trais yn erbyn menywod a merched yn cael ei ystyried yn swyddogol (trwy'r Gofyniad Plismona Strategol) fel bygythiad cenedlaethol gan y llywodraeth, a bod fframwaith cenedlaethol ar ei newydd wedd wedi dod ag ymateb yr heddlu i drais yn erbyn menywod a merched yn gyson â gwrthderfysgaeth. Mae hyn yn cynnwys mabwysiadu methodoleg brofedig a ddefnyddir mewn plismona gwrthderfysgaeth a throseddau difrifol a threfnedig i fynd i'r afael â bygythiadau cenedlaethol.
“Roedd dileu trais yn erbyn menywod a merched yn un o'r addewidion yn fy maniffesto pan gefais fy ethol, a bydd yn chwarae rhan amlwg yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
“Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rwyf yn bwriadu defnyddio'r holl bŵer sydd ar gael i mi i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid ehangach i gymryd camau mentrus ac uchelgeisiol i wella profiad menywod a merched yma yng Ngwent.”
Gellir gweld y datganiad cyflawn yma:
https://news.npcc.police.uk/releases/call-to-action-as-violence-against-women-and-girls-epidemic-deepens-1