Y Panel Heddlu a Throsedd yn recriwtio aelod newydd

2il Mawrth 2023

Mae Panel Heddlu a Throsedd Gwent yn recriwtio aelod annibynnol newydd, i herio, cefnogi a chraffu ar waith fy swyddfa.

Pwrpas y Panel Heddlu a Throsedd yw cadw golwg reolaidd ar berfformiad comisiynwyr yr heddlu a throsedd ar ran trigolion.

Rwyf yn adrodd wrth y panel yn rheolaidd ac mae'n ofynnol fy mod yn ymgynghori ag aelodau ar benderfyniadau fel faint o dreth y cyngor sy'n mynd i dalu am blismona, a phenodi Prif Gwnstabl.

Mae hon yn rôl bwysig ac mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan y Panel Heddlu a Throsedd