Y Comisiynydd yn llongyfarch grwpiau cymunedol ar dderbyn cyllid gan Gronfa'r Uchel Siryf

18fed Mawrth 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi llongyfarch grwpiau o bob rhan o Went sydd wedi derbyn arian gan Gronfa Gymunedol Uchel Siryf Gwent.  

 

Mae'r gronfa'n helpu i adeiladau cymunedau mwy diogel yng Ngwent trwy ddyfarnu arian i brosiectau sy'n mentora ac ysbrydoli pobl ifanc i gyflawni eu potensial, a derbyniodd hwb eleni diolch i rodd o £65,000 gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent.

 

Oherwydd y pandemig, cynhaliodd Tim Russen, Uchel Siryf Gwent, ddigwyddiad rhithiol, a chyflwynodd 15 o grwpiau fideos byr er mwyn i'r grwpiau eraill a oedd yn cystadlu am y cyllid bleidleisio drostynt.

 

Dyfarnwyd hyd at £5,000 yr un i amrywiaeth o grwpiau, gan gynnwys Cyswllt Cymuned Dyffryn, Gardd Gymunedol Griffithtown, Made in Tredegar a'r elusen Aloud. Dyfarnwyd £1,000 yr un i'r grwpiau aflwyddiannus hefyd, felly aeth neb gartref yn waglaw.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd bod cymaint o grwpiau lleol wedi derbyn cyllid, y mae cyfran fawr ohono'n dod o fy swyddfa i. Rwyf yn falch bod grwpiau wedi rhoi o'u hamser i greu fideos byr, pob un ohonynt yn pwysleisio pam mae'r Gronfa Gymunedol mor bwysig yn helpu pobl o bob oedran a chefndir ledled Gwent. Mae llais cymunedau'n parhau i fod yn rhan amlwg o'r broses hon. Llwyddodd gwasanaeth maethu Action for Children i sicrhau'r grant tair blynedd a oedd ar gael, ac mae'r arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi sesiynau celf therapiwtig. Mae'r bobl ifanc sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi cael profiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, sy'n gallu cael effaith anferthol ar unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau.”

 

Mae rhestr lawn o brosiectau llwyddiannus i'w gweld ar wefan Sefydliad Cymunedol Cymru:

https://communityfoundationwales.org.uk/grants-overview/gwent-high-sheriffs-community-fund-your-voice-your-choice-2021/