Y Comisiynydd yn canmol Ysgol Lewis am ymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant

21ain Gorffennaf 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol disgyblion a staff Ysgol Lewis Pengam am eu hymrwymiad i ddathlu amrywiaeth a chynhwysiant.

 

Yn ystod wythnos olaf y tymor cymerodd disgyblion ran mewn gwersi â themâu a oedd yn canolbwyntio ar faterion codi ymwybyddiaeth gan gynnwys y mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, Islamoffobia, rhagfarn ar sail anabledd a homoffobia

 

Daeth y dathliad wythnos o hyd i ben gyda phedwerydd digwyddiad PRIDE blynyddol yr ysgol.

 

Rhoddodd y Comisiynydd, ynghyd â Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, negeseuon o gefnogaeth a ddangoswyd i ddisgyblion drwy gydol yr wythnos a'u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Mae dathlu amrywiaeth a chynhwysiant yn eithriadol o bwysig ac roeddwn yn falch o gael rhoi neges o gefnogaeth i ddisgyblion Ysgol Lewis Pengam. Hoffwn ddiolch i ddisgyblion a staff yr ysgol am roi o'u hamser i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd i ddisgyblion i helpu i ddeall profiadau pobl eraill.

 

"Mae mor bwysig ein bod ni'n gwerthfawrogi pobl am yr hyn ydyn nhw. Mae deall materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth yn hanfodol i bobl ifanc a fydd yn byw ac yn gweithio yn ein cymunedau yn y dyfodol."