Y Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn croesawu deddfwriaeth newydd i ymdrin â chamfanteisio troseddol

26ain Chwefror 2025

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd wedi croesawu deddfwriaeth newydd i amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed rhag camfanteisio troseddol.

Bydd y Bil Trosedd a Phlismona, sy’n cael ei gyflwyno i’r Senedd yr wythnos hon, yn gwneud camfanteisio troseddol ar blant, a’r arfer o "gogio", yn droseddau penodol, gan roi mwy o bwerau i’r heddlu, a’r system cyfiawnder troseddol, i amddiffyn dioddefwyr.

Bydd yn targedu pobl sy’n meithrin perthynas amhriodol â phlant i gyflawni gweithredoedd troseddol, a hefyd troseddwyr sy’n meddiannu cartrefi pobl agored i niwed i’w defnyddio fel canolfannau ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, arfer a elwir yn gogio. Mae’r ddau fath o gam-fanteisio ar bobl yn cael eu cynnal yn rheolaidd gan werthwyr cyffuriau llinellau cyffuriau a gangiau troseddau cyfundrefnol.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: "Mae gangiau troseddol yn targedu plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed fel rhan o’u gweithgarwch troseddol, gan eu llusgo i fywyd o drosedd y mae’n anodd dianc rhagddo. Mae’r ddeddfwriaeth newydd bwysig hon yn canolbwyntio’n fwy cadarn ar dargedu cyflawnwyr y troseddau hynny yn hytrach na’r dioddefwyr agored i niwed y maent wedi camfanteisio arnynt.

"Bydd yn rhoi pwerau newydd i ni ar draws plismona a’r system cyfiawnder troseddol, ac yn ein galluogi ni i wneud gwahaniaeth i’n cymunedau."