Wythnos Gwaith Ieuenctid 2021

24ain Mehefin 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, wedi canmol gwaith gwerthfawr gweithwyr ieuenctid wrth ddathlu Wythnos Genedlaethol Gwaith Ieuenctid.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent: "Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r holl weithwyr ieuenctid a sefydliadau ieuenctid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector ledled Gwent.

"Mae bywyd wedi bod mor anodd i bobl ifanc yn ystod y cyfyngiadau symud ac rwy'n gwybod bod gweithwyr ieuenctid wedi bod yn achubiaeth i bobl ifanc yng Ngwent.

"Fel cyn weithiwr ieuenctid, rwyf yn deall yr effaith gall gwaith ieuenctid ei chael ar bobl ifanc. Mae'r ymroddiad a'r ymrwymiad i fynd yr ail filltir, i helpu pobl ifanc i fod y gorau y gallan nhw yn wirioneddol ysbrydoledig.

“Mae gwrando ar yr hyn sydd o bwys i bobl ifanc wedi helpu i lywio'r blaenoriaethau yn fy Nghynllun Heddlu a Throsedd, a byddaf yn ceisio eu barn a'u safbwyntiau yn yr wythnosau nesaf wrth i mi ddechrau ymgysylltu ynghylch fy Nghynllun Heddlu a Throsedd newydd. Rwyf yn falch iawn bod gan fy swyddfa berthynas gadarnhaol gydag amrywiaeth eang o sefydliadau a fforymau ieuenctid, gan gynnwys y Fforwm Rhanbarthol Ieuenctid, i roi llwyfan i blant a phobl ifanc leisio eu barn.

"Rwyf yn falch bod fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu'n cefnogi amrywiaeth eang o brosiectau ledled Gwent sy'n grymuso pobl ifanc i ddewis llwybr cadarnhaol yn eu bywydau a pheidio â dewis bywyd o droseddu.

“Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu'n derbyn ceisiadau yn awr ac rwyf yn croesawu ceisiadau gan sefydliadau dielw yng Ngwent am gyllid o £10,000 - £50,000. Gellir defnyddio'r arian i gynnig gweithgareddau cadarnhaol a dargyfeiriol i bobl ifanc, gan eu helpu nhw i ddatblygu eu hyder, sgiliau a dysgu. Gyda'n gilydd gallwn eu helpu nhw i wireddu eu gwir botensial a chreu cymunedau mwy diogel a chydlynus."

Am ragor o wybodaeth am y meini prawf a'r broses ymgeisio ar gyfer Cronfa Gymunedol yr Heddlu, ewch i - www.gwent.pcc.police.uk/en/what-we-spend/commissioning/police-community-fund

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Medi.