Taith gerdded Shaftesbury Youf Gang er mwyn elusennau
3ydd Awst 2023
Mae’n rhaid i mi longyfarch plant a phobl ifanc Shaftesbury Youf Gang a gwblhaodd daith gerdded wlyb iawn ar draws hen Bont Hafren i godi arian i elusennau yn ddiweddar.
Gyda’i gilydd gwnaethant godi mwy na £1000 i Hosbis Dewi Sant a Lloches Anifeiliaid All Creatures Great and Small.
Rwyf yn falch i gyfrannu arian i gefnogi Shaftesbury Youth Gang, sy’n gaffaeliad mawr i’r gymuned, yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc gael profiadau newydd, gwneud ffrindiau newydd a datblygu eu hyder.