Swyddogion a staff Heddlu Gwent yn rhoi i fanc bwyd lleol
Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent, a staff Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cefnogi Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol.
Mae'r Cwm Dwyreiniol, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Trussell, ym Mhont-y-pŵl ac mae'n darparu cymorth brys i bobl leol mewn argyfwng.
Mae'r casgliad yn cael ei drefnu gan BAM Construction sy'n datblygu pencadlys newydd Heddlu Gwent ar Ystâd Ddiwydiannol Llantarnam yng Nghwmbrân.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: “Mae llawer o bobl wedi ei chael hi'n galed yn ystod y pandemig ac, yn anffodus, mae mwy o angen nag erioed am fanciau bwyd.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu hyd yn hyn. Bydd eich ymdrechion yn fendith i'r bobl yn y gymuned sydd angen cymorth.”