Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent yn cyflawni Siarter Safonau Plant
Mae Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a throsedd Gwent (Swyddfa'r Comisiynydd) wedi cyflawni Siarter Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc am yr ail waith.
Mae'r siarter yn cydnabod ymrwymiad parhaus Swyddfa'r Comisiynydd i sicrhau bod y saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol yn cael eu dilyn wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r safonau cyfranogiad yn pwysleisio pwysigrwydd gwrando ar farn plant a phobl ifanc.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cyflawni Siarter Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc am yr ail waith. Mae fy nhîm a minnau wedi ymroi i sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei chlywed wrth lunio cynlluniau a pholisïau, felly rwyf yn falch iawn bod y gwaith yma wedi cael ei gydnabod.
"Mae fy swyddfa’n gweithio mewn partneriaeth gyda llawer o sefydliadau ieuenctid statudol a gwirfoddol ledled Gwent ac mae’n ariannu llawer o brosiectau ieuenctid sy’n rhoi cefnogaeth sylfaenol i ddargyfeirio cenedlaethau’r dyfodol oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r effaith mae’r prosiectau yma’n ei gael yn hollbwysig yn amddiffyn a thawelu meddwl cymunedau.
"Gydol y flwyddyn mae fy swyddfa'n cynnal llawer o weithgareddau a digwyddiadau sy'n fy helpu i ddeall ba faterion sydd o bwys i blant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys fy nigwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid blynyddol, lle mae'r amrywiaeth eang o faterion sy'n cael eu codi yn hynod o werthfawr yn fy helpu i lunio polisïau, cynlluniau a blaenoriaethau."