Strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer Cymru

26ain Mai 2022

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth newydd i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru tan 2026.

Mae'n amlinellu chwe nod allweddol y bydd Llywodraeth Cymru, ynghyd â phartneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, yn ymrwymo iddynt.

Y rhain yw:

  • Herio agweddau tuag at drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol trwy godi ymwybyddiaeth o'i effaith a'i ganlyniadau.
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydberthnasau diogel, cyfartal ac iach.
  • Dwyn pobl sy'n cyflawni camdriniaeth i gyfrif a helpu pobl sy'n ymddwyn yn ymosodol neu'n dreisgar i newid.
  • Rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar ac atal.
  • Hyfforddi gweithwyr proffesiynol fel bod ganddynt yr adnoddau i roi cymorth effeithiol, amserol a phriodol i ddioddefwyr a goroeswyr.
  • Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, ble bynnag maent yn byw yng Nghymru.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn croesawu strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ac yn falch bod fy swyddfa wedi gallu cyfrannu ati. Mae'r strategaeth newydd yn rhoi'r dioddefwr wrth galon penderfyniadau, ac yn  cydnabod yr angen go iawn i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ac nid ei effeithiau yn unig.

"Er nad yw pwerau plismona wedi cael eu datganoli i Gymru rydym eisoes yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a'n partneriaid eraill i ddefnyddio dull amlasiantaeth i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ein cymunedau.

“Mae'r strategaeth newydd hon yn cadarnhau ein hymrwymiad i gydweithio i ymateb i'r problemau cymdeithasol mawr hyn a chreu Cymru fwy diogel i fenywod, merched a phob dioddefwr camdriniaeth."

Darllenwch y strategaeth yn llawn ar wefan Llywodraeth Cymru.