Rhoi blaenoriaeth i gymunedau bregus

18fed Mehefin 2021

Cyfarfu Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent a Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru'r wythnos hon i drafod sut y gallant hwy a phartneriaid gydweithio i roi pobl hŷn, yn arbennig y rhai sy'n fregus, wrth galon eu gwaith yn y dyfodol.

Roedd y cyfarfod yn dilyn Diwrnod Ymwybyddiaeth Cam-drin Pobl Hŷn ar 15 Mehefin. Roedd y diwrnod yn rhoi sylw i'r gwahanol fathau o gam-drin mae pobl hŷn yn eu hwynebu yng Nghymru.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn angerddol dros roi blaenoriaeth i hawliau pobl hŷn, sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, eu bod yn cael eu diogelu ac nad ydynt yn dioddef gwahaniaethu o unrhyw fath.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert:

"Amddiffyn y bobl fwyaf bregus yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae cyfle ardderchog i gydweithio ac yng Ngwent mae gennym berthynas wych gyda'n partneriaid gwasanaeth cyhoeddus i allu gwneud hyn.

"Mae plismona wedi newid dros y blynyddoedd ac amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau fydd canolbwynt ein gwaith bob amser. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi arwain at gynnydd mewn seiberdrosedd ac wedi newid y ffordd mae troseddwyr yn gweithio. Rwyf yn falch bod Uned Ymchwiliadau Ariannol a Seiberdrosedd pwrpasol Heddlu Gwent wedi ehangu yn awr i gynnwys SCC Seiber a Swyddog Seiberddiogelwch i roi cyngor i'n cymunedau ynghylch cadw’n ddiogel ar-lein.

"Mae teimlo'n ddiogel yn gwbl hanfodol ar gyfer lles pobl. Rwyf yn gwybod bod pobl hŷn yn teimlo'n ddiogel pan fyddant yn gweld swyddogion yn eu cymunedau. Y swyddogion hyn sy'n gweld a chlywed beth sy'n digwydd yn ein cymunedau ac mae sicrhau bod ganddynt yr adnoddau i adnabod arwyddion cam-drin a bod yn fwy ymwybodol o droseddau sy'n gallu effeithio ar bobl hŷn yn bwysig iawn i mi.

“Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Comisiynydd Pobl Hŷn ac awdurdodau lleol er mwyn galluogi pob ardal yn y sir i ddod yn gymunedau O Blaid Pobl Hŷn.”

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi cynhyrchu taflen gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth o gam-drin. Mae hefyd yn nodi ble i gael cymorth: Ceisiwch Gymorth Cadwch yn Ddiogel

Gallwch ddysgu mwy am waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yma:  https://olderpeoplewales.com/en/Home.aspx