Pobl ifanc yn mwynhau haf llawn hwyl yng Nghwm Aber
Mae plant a phobl ifanc Cwm Aber yng Nghaerffili yn cael eu cadw’n brysur yr haf hwn gyda rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cael ei chynnal gan Ganolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd (Sydic).
Maen nhw wedi gallu cymryd rhan mewn gweithdai cerddoriaeth, celf ac animeiddio, ac wedi ymuno â theithiau bowlio, tag laser, sglefrio iâ a Ninja Warrior.
Nod y sesiynau yw rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn rhywbeth cadarnhaol yn ystod gwyliau’r haf a helpu i’w cadw draw oddi wrth ymddygiad gwrthgymdeithasol posibl.
Dywedodd Matthew Thorne, uwch weithiwr ieuenctid: "Diolch i gyllid gan y cyngor cymuned rydyn ni wedi gallu cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod gwyliau’r haf.
"Rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth i bobl ifanc edrych ymlaen ato yn ystod yr haf, cyfleoedd i roi cynnig ar rywbeth newydd ac i gael hwyl gyda’u ffrindiau."
Ar hyn o bryd mae Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd yn derbyn cymorth tuag at ei darpariaeth i bobl ifanc gan gronfa gymunedol Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae’n fendigedig gweld y cyfleoedd gwych hyn yn cael eu cynnig i bobl ifanc yng Nghwm Aber, a bod y bobl ifanc yn ymgysylltu’n dda.
"Rydyn ni wedi cefnogi Canolfan Galw Heibio Pobl Ifanc Senghennydd ers rhai blynyddoedd ac mae’r tîm, sy’n helpu i gefnogi llawer o bobl ifanc agored i niwed, o fudd gwirioneddol i’r gymuned."
Mae cronfa gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar agor i geisiadau ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent.