Pobl ifanc yn mwynhau gêm pêl-droed yn erbyn Heddlu Gwent

12fed Awst 2022

Cymerodd pobl ifanc o Gil-y-coed ran mewn twrnamaint pêl-droed chwech bob ochr yn erbyn swyddogion Heddlu Gwent, i helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng pobl ifanc a’r tîm plismona yn y gymdogaeth lleol.

Gweithiodd gwasanaeth iechyd Cyngor Sir Fynwy a thimau datblygu chwaraeon gyda Heddlu Gwent, Dyfodol Cadarnhaol a Sir Casnewydd i gynnal y twrnamaint.

Roedd y twrnamaint yn un o lawer o weithgareddau wedi’u hariannu o gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu drwy’r fenter Dyfodol Cadarnhaol.

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: “Rwy’n hapus iawn i weld y twrnamaint yn digwydd.

“Rwy’n credu’n gryf mewn defnyddio chwaraeon fel dull o chwalu rhwystrau rhwng pobl ifanc a’r heddlu, newid canfyddiadau a chynyddu parch. Hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad.”

Mae Dyfodol Cadarnhaol yn cyflwyno prosiectau ledled Gwent ac yn cael cyllid o Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu fel rhan o ymrwymiad y Comisiynydd i gadw cymdogaethau’n ddiogel a chynyddu hyder y gymuned mewn plismona.

I gael rhagor o wybodaeth:

Dyfodol Cadarnhaol: https://www.newportlive.co.uk/.../our.../positive-futures/

Mon Life: https://www.monlife.co.uk/connect/