Pobl ifanc yn holi'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau yng Ngwent

11eg Mawrth 2022

Mae pobl ifanc o bob rhan o Went wedi bod yn holi'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau ym mhedwerydd digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Cynhaliwyd y digwyddiad rhithiol mewn partneriaeth â Fforwm Rhanbarthol Ieuenctid Gwent, ac ymunodd dros 60 o bobl ifanc o bum sir Gwent.

Roedd y themâu a drafodwyd yn ystod y digwyddiad yn cynnwys diogelwch menywod a merched, gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc a throseddau casineb mewn cymunedau.

Arweiniwyd y digwyddiad gan Brendan Roberts o Fforwm Ieuenctid Torfaen ac Eva Franklin o Fforwm Ieuenctid Caerffili.

Roedd y panel yn cynnwys Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert; Prif Gwnstabl Heddlu Gwent, Pam Kelly;  Dr Rachel Evans, seicolegydd clinigol, tîm Seicoleg plant a Theuluoedd yn y Gymuned; Rebecca Stanton, Pennaeth Rhanbarthol Rhaglen Drawsnewid Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan; Kelly Harris, Arweinydd datblygu a chyfranogiad busnes ar gyfer yr elusen Brook. 

Meddai Jeff Cuthbert: “Roedd hwn yn ddigwyddiad gwych arall, fel bob tro, a gwnaeth dyfnder ac aeddfedrwydd y cwestiynau a ofynnwyd argraff fawr arnaf.   

“Mae'r penderfyniadau rydym yn eu gwneud fel gwasanaethau cyhoeddus yng Ngwent yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc ac mae'n iawn eu bod nhw'n cael y cyfle i'n dwyn ni i gyfrif. Rydym yn ymroddedig i roi sylw i bobl ifanc wrth wneud penderfyniadau ac mae hyn yn golygu rhoi cyfle iddynt ddweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn anghywir, yn ogystal â dweud wrthym beth rydym yn ei wneud yn iawn.

"Hoffwn ddiolch i Fforwm Rhanbarthol Ieuenctid Gwent am eu gwaith caled, pawb a weithiodd y tu ôl i'r llenni, a phawb a gymerodd ran yn y digwyddiad ac a helpodd i sicrhau ei fod yn llwyddiant."

Ymunodd pobl ifanc â’r digwyddiad rhithiol o ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled Gwent.

Dywedodd Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Mae egni ac angerdd y bobl ifanc sy'n helpu i wneud Hawl i Holi Ieuenctid mor llwyddiannus bob blwyddyn yn ysbrydoliaeth i mi bob tro. Hoffwn ddiolch i bawb am eu gwaith caled.

“Mae'n hollbwysig bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfle hwn i'n dwyn ni i gyfrif am y penderfyniadau rydym yn eu gwneud.  Rydym wedi ymroi i roi plant wrth galon y penderfyniadau a wnawn yn y maes plismona, ac mae'r sylwadau a'r adborth rydym yn ei dderbyn gan bobl ifanc yn rhan bwysig o'r gwaith o wella ein gwasanaethau ar gyfer y dyfodol."

Visual representation of meeting

 

Visual representation of meeting