Pobl ifanc Caerffili'n cadw'r olwynion yn troi yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae pobl ifanc o Gaerffili wedi bod yn cadw'n brysur yn ystod y cyfyngiadau symud yn trwsio ac adfer hen feiciau fel rhan o brosiect sy'n cael ei ariannu gan arian o fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu.
Rhoddwyd arian i Creazione in the Community gan Gronfa Gymunedol Heddlu Gwent Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal pobl ifanc rhag dechrau ymwneud â throsedd yn ardal Parc Lansbury.
Bu'n rhaid i'r rhan fwyaf o'r gwaith aros yn ystod y cyfyngiadau symud ond roedd y tîm yn gallu cadw'r prosiect beiciau i fynd. Maent yn casglu hen feiciau ac mae pobl ifanc yn cael eu dysgu sut i'w trwsio nhw.
Mae'r bobl ifanc yn defnyddio'r prosiect i weithio i ennill cymwysterau ymarferol ac mae'r beiciau'n cael eu gwerthu yn ôl i'r gymuned am bris isel.
Mae Rhys Davies o Barc Lansbury yn un o ryw 10 o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r prosiect beiciau yn ystod y cyfyngiadau symud. Dywedodd: “Oni bai am y prosiect hwn byddwn i wedi aros i mewn bob dydd. Rwy'n mwynhau dysgu am feiciau a sut i'w trwsio nhw. Rwy'n gobeithio ennill fy nghymwysterau a dod yn fecanig rhyw ddydd.”
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: “Mae'n wych gweld bod y prosiect hwn wedi parhau yn ystod y cyfyngiadau symud, yn rhoi cefnogaeth i bobl ifanc sy'n arbennig o fregus ar hyn o bryd ac a fyddai, fel arall, mewn perygl o ddechrau ymwneud â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Trwy fynd i'r afael â'r problemau hyn pan fydd pobl yn ifanc a thrwy roi cyfleoedd i bobl ifanc ganolbwyntio eu hegni ar rywbeth cadarnhaol ac ennill profiad a chymwysterau ar yr un pryd, gallwn eu helpu nhw i wneud dewisiadau cadarnhaol ar gyfer eu dyfodol."
Mae Cronfa Gymunedol yr Heddlu ar agor i sefydliadau dielw sy'n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n ymwneud, neu mewn perygl o ddechrau ymwneud, â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd wedi dioddef trosedd.
Mae cyfran o'r arian yn y gronfa wedi cael ei atafaelu gan droseddwyr, a gall sefydliadau wneud cais am symiau o £10,000 i £50,000.