Plant yn dysgu i sglefr fyrddio yn rhan o brosiect Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd

11eg Mai 2022


Mae plant yng Ngwent yn dysgu i sglefr fyrddio am y tro cyntaf diolch i brosiect sy'n cael cyllid gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Mae Skateboard Academy UK yn darparu sesiynau sglefr fyrddio galw heibio i bobl ifanc ledled y rhanbarth. Dyma'r tro cyntaf i rai o’r bobl ifanc brofi'r gamp tra mae'n helpu eraill i ddatblygu eu sgiliau.

Mae'r sesiynau'n cael eu darparu mewn partneriaeth â Dyfodol Cadarnhaol, sy’n cynnig gweithgareddau ac allgymorth i blant a phobl ifanc, gan roi profiadau cadarnhaol iddyn nhw a helpu i’w harwain oddi wrth droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Meddai Sam Horler o Skateboard Academy UK: “Mae'r sesiynau hyn yn dod â sglefr fyrddio i bobl ifanc na fyddent yn cael y cyfle i'w brofi fel arall. Maen nhw'n gwneud ffrindiau, dysgu sgiliau newydd ac mae sglefr fyrddio'n rhan fawr o fywydau llawer ohonyn nhw'n awr."

Cymerodd Dylan Howells o Gaerffili ran yn y sesiynau yn Llanbradach. Dywedodd: "Roeddwn i arfer dioddef yn ofnadwy gyda phroblemau dicter. Ers i mi ddechrau sglefr fyrddio gyda Sam yn Skateboard Academy UK mae wedi helpu llawer. Rwyf wedi cael lle mewn coleg ac wedi dechrau cofrestru ar gyfer swyddi. Mae wedi fy helpu i roi fy mywyd yn ôl ar y trywydd iawn."

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert: "Nid yw pob person ifanc yn mwynhau chwaraeon tîm traddodiadol, ac mae hynny’n gallu eu rhwystro nhw rhag bod yn egnïol ac ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid, felly rwy'n credu ei bod yn bwysig cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol a chaniatáu i bobl ifanc fynegi eu hunain yn unigol.

“Mae'n rhaid i ni gymryd camau gweithredu mor gynnar â phosibl er mwyn mynd i'r afael â throsedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Trwy ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn gynnar, gallwn helpu i bwysleisio pwysigrwydd ymddygiad cadarnhaol, chwalu rhwystrau, a helpu i'w rhwystro nhw rhag dechrau ymwneud â throsedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol.”