Plant Pilgwenlli yn elwa ar gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Mae plant ym Mhilgwenlli yn mwynhau gweithgareddau fel crefftau, chwaraeon a drama diolch i gyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent.
Mae'r elusen Kidcare4U wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd i gynnal clwb wythnosol ar ddydd Sadwrn i blant lleol 5 i 16 oed.
Yn ogystal â chynnal gweithgareddau sy'n annog pobl ifanc i gadw'n iach, gwella eu hyder a gwneud ffrindiau, mae'r elusen yn darparu cymorth addysg ychwanegol i'r rhai sydd ei angen hefyd.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: "Mae'r clwb dydd Sadwrn yn llenwi bwlch mewn darpariaeth gwasanaeth yn yr ardal leol, yn rhoi cyfle i blant o bob cymuned gael hwyl, datblygu a thyfu.
"Nid yn unig mae'r prosiect hwn yn cadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd ac yn rhoi rhywbeth cadarnhaol iddyn nhw ei wneud, bydd y cymorth ehangach a gynigir i'r bobl ifanc a'u teuluoedd o fudd hirdymor iddyn nhw yn y dyfodol."
Mae'r clwb dydd Sadwrn yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Mileniwm Pilgwenlli, gyda staff a gwirfoddolwyr o'r ardal leol.
Meddai Prif Swyddog Gweithredol Kidcare4U, Rusma Begum: “Mae llawer o'r plant sy'n dod atom ni'n dioddef o ddiffyg hyder o ran sgiliau cyfathrebu a chymdeithasol. Rydym yn ceisio darparu amgylchedd diogel, anfarnol sy'n meithrin eu hyder a hunan-barch, gwella'u haddysg ac yn caniatáu iddyn nhw gael hwyl hefyd.
“Mae'r cyllid gan Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd yn golygu y gallwn agor y clwb dydd Sadwrn i ragor o blant, er mwyn i'r gymuned gyfan yma ym Mhilgwenlli elwa.”
Mae amser o hyd i wneud cais am gyllid Cronfa Gymunedol Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ar gyfer 2022/23.
I gael manylion ewch i'r dudalen comisiynu.