Plant Pilgwenlli’n ‘plannu coeden ar gyfer y Jiwbilî’

25ain Hydref 2021

Roedd fy nhîm yn falch iawn i ymuno ag aelodau Heddlu Bach Ysgol Gynradd Pilgwenlli ac aelodau’r gymuned leol i blannu coeden yn rhan o ddathliadau jiwbilî platinwm y Frenhines.

Ymgyrch i blannu coed yw Canopi Gwyrdd y Frenhines sydd wedi cael ei greu i nodi jiwbilî platinwm y Frenhines yn 2022 ac sy’n estyn gwahoddiad i bobl o bob rhan o’r Deyrnas Unedig “Blannu Coeden ar gyfer y Jiwbilî.”

Roedd Ysgol Gynradd Pilgwenlli yn un o nifer fach o ysgolion yng Nghymru i dderbyn coeden ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Hoffwn ddiolch i bawb a wnaeth y diwrnod yn llwyddiant.