Panel yr Heddlu a Throseddu

11eg Rhagfyr 2020

Yn gynharach heddiw cynhaliwyd cyfarfod olaf y flwyddyn Panel yr Heddlu a Throseddu.

Mae’r panel yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o bum sir Gwent, ac mae’r aelodau’n cefnogi ac yn herio fy mhenderfyniadau ar ran y cyhoedd.

Treuliwyd y rhan fwyaf o gyfarfod heddiw yn derbyn cynnig cyllideb Heddlu Gwent ar gyfer 2021/22 yn ffurfiol gan y Prif Gwnstabl Pam Kelly.

Gan fod bron i 50 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent yn dod o daliadau treth y cyngor yn lleol, nid yw pennu’r gyllideb blismona yn benderfyniad hawdd i mi ei wneud.

Mae nifer o ffactorau y mae angen i mi eu hystyried ac rwyf yn gofyn i bobl leisio eu barn ar blismona yng Ngwent i helpu i lywio fy mhenderfyniad.

Bydd fy nhîm a minnau’n craffu ar yr holl wybodaeth hon dros yr wythnosau sydd i ddod, cyn paratoi adroddiad i’w gyflwyno i Banel yr Heddlu a Throseddu ddiwedd mis Ionawr.