Nifer y troseddau a gofnodir yn parhau i ostwng yng Ngwent

5ed Tachwedd 2021

Gostyngodd nifer y troseddau a gofnodir yng Ngwent ddeg y cant dros y flwyddyn ddiwethaf yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Dengys y ffigurau fod 49,146 o droseddau wedi'u cofnodi yng Ngwent ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021o’i gymharu â 54,718 ym mis Mehefin 2020.

Mae'r ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi dadansoddiad chwarterol o droseddau a gofnodir ar gyfer pob heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Dywedodd Jeff Cuthbert, Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd: "Unwaith eto, rydym yn gweld lefelau troseddau a gofnodir yn gostwng yn gyson ac mae Gwent yn cynnal ei lle fel un o'r mannau mwyaf diogel i fyw a gweithio ynddo yn y DU. Mae'n arbennig o galonogol gweld mai Gwent sydd ag un o'r lefelau isaf o droseddau sy'n ymwneud â chyllell, neu offeryn miniog, yn y wlad.

“Er bod hyn yn hynod o gadarnhaol, gwyddom fod rhai troseddau, gan gynnwys treisio, trais rhywiol a cham-drin domestig, wedi’u tangofnodi'n sylweddol. Mae mynd i'r afael â'r broblem hon yn eithriadol o gymhleth ond rwyf eisiau sicrhau dioddefwyr y troseddau hyn y cewch eich cefnogi, ac ni fyddwch byth yn cael eich barnu.

Os nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiad, yna mae gwasanaethau cymorth a all eich helpu, a gallant fod yno i chi os byddwch yn barod i riportio trosedd. Peidiwch â dioddef yn dawel, mae cymorth ar gael."

Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly: "Oherwydd yr argyfwng iechyd, cafwyd llawer o heriau i'r ffordd yr ydym yn plismona a sut yr ydym yn amddiffyn aelodau mwyaf agored i niwed ein cymuned. Er gwaethaf yr heriau unigryw iawn hyn, gweithiodd ein swyddogion yn galed i fynd i'r afael â phob math o weithgarwch troseddol ac mae'r gostyngiad cyffredinol yn nifer y troseddau yng Ngwent bob amser yn galonogol.

"Rydym yn benderfynol o gadw ein cartrefi a'n strydoedd mor rhydd rhag troseddu â phosibl ac nid yw ein gwaith byth yn dod i ben yn hynny o beth. Hoffwn gydnabod ymrwymiad ein swyddogion yn ystod y pandemig, a diolch hefyd i'r cyhoedd am weithio gyda ni i'n cadw ni i gyd yn ddiogel."

Mae cymorth ar gael

Gall dioddefwyr roi gwybod i Heddlu Gwent am ddigwyddiadau drwy eu tudalen Facebook, 101 neu ffonio 999 mewn argyfwng.

Mae cymorth ar gael drwy wasanaethau cymorth penodol ar gyfer cam-drin rhywiol a thrais rhywiol.

Mae New Pathways yn darparu gwasanaethau cymorth argyfwng trais rhywiol a cham-drin rhywiol, a gwasanaethau arbenigol i blant sy'n dioddef cam-drin rhywiol.

Gwefan: www.newpathways.org.uk
E-bost:  enquiries@newpathways.org.uk
Ffôn: 01685 379 310

Mae Cymorth i Fenywod Cyfannol yn darparu gwasanaethau cymorth cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Gwent.

Gwefan:  https://cyfannol.org.uk
Ffôn: 01495 742052

Mae canolfan dioddefwyr Connect Gwent yn cynnig ystod eang o gymorth ac nid oes rhaid i chi fod wedi rhoi gwybod i’r heddlu am drosedd er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Gwefan: www.umbrellacymru.co.uk/connect-gwent

E-bost: connectgwent@gwent.pnn.police.uk
Ffôn: 0300 123 2133