Mae amser o hyd i chi leisio barn ynglŷn â chyllid yr heddlu

6ed Ionawr 2023

Mae amser o hyd i drigolion yng Ngwent leisio barn ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer 2023/24.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn am farn trigolion ynglŷn â chyllid yr heddlu ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae bron i 40 y cant o gyllideb gyffredinol Heddlu Gwent o £173 miliwn yn dod o daliadau treth y cyngor lleol yn awr a chomisiynwyr yr heddlu a throsedd sy'n gyfrifol am bennu faint mae trigolion yn ei dalu bob mis.

Meddai Jeff Cuthbert: “Mae'r ansicrwydd economaidd presennol yn y DU, yn arbennig o ran cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn golygu bod sefyllfa ariannol plismona yn y dyfodol yn dal yn ansicr ac yn hynod o heriol. Mae ein gwaith cynllunio ariannol yn dweud wrthym ni mai cynnydd o £25 y flwyddyn, neu £2.08 y mis, yn nhreth y cyngor ar gyfer eiddo arferol yw ein siawns orau o geisio cynnal lefelau gwasanaeth presennol yma yng Ngwent. Hyd yn oed gyda'r cynnydd hwn bydd diffyg sylweddol y bydd rhaid ei gydbwyso gydag arbedion.

“Mae hwn bob amser yn benderfyniad anodd ac ni fyddaf yn ei wneud ar chwarae bach. Eleni mae'n fwy anodd nac erioed a chyn i mi wneud penderfyniad, rwyf am i drigolion leisio eu barn."

Mae cyllid Heddlu Gwent gan y llywodraeth wedi gostwng yn sylweddol ers 2010. Mae wedi gorfod gwneud bron i £52.8 miliwn o arbedion a rhaid iddo arbed rhwng £19.8 a £25.8 miliwn erbyn 2027. 

Cwblhewch yr arolwg