Hyfforddiant diffodd tân i bobl ifanc Blaenau Gwent

27ain Hydref 2021

Mae pobl ifanc o Flaenau Gwent wedi bod yn ddiffoddwyr tân am ddiwrnod, yn rhan o sesiwn troseddau a chanlyniadau Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.

 

Cafodd y grŵp gipolwg ar y sgiliau sydd eu hangen i ddod yn ddiffoddwr tân a chymryd rhan mewn gweithdy i ddangos peryglon tân gwyllt anghyfreithlon a'r effaith y gall cynnau tanau bwriadol ei gael ar gymunedau a gwasanaethau brys.

 

Cefnogwyd y sesiwn gan Dyfodol Cadarnhaol, un o'r nifer o brosiectau dargyfeiriol a ariennir gan Gronfa Gymunedol Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, ac mae'n un o lawer o weithgareddau sydd wedi digwydd i dynnu sylw at Ymgyrch Bang.

 

Mae Ymgyrch Bang yn fenter genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o beryglon tân gwyllt a diogelwch tân yn barod ar gyfer noson tân gwyllt ar 5 Tachwedd.

 

Trwy gydol mis Hydref, mae staff o Dyfodol Cadarnhaol a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi bod yn ymweld ag ysgolion, parciau a chanolfannau cymuned lleol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a'u helpu nhw i ddeall peryglon noson tân gwyllt trwy gyfrwng gweithgareddau difyr.

 

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert: "Rwyf yn falch i allu cefnogi a rhoi cyllid i Dyfodol Cadarnhaol, ac rwyf yn ariannu Ymarferydd Trosedd Tân pwrpasol yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru hefyd, sy'n ymgysylltu â phobl ifanc trwy gyfrwng ysgolion.

 

“Mae gweithgareddau i gefnogi ac addysgu plant a phobl ifanc am beryglon tân gwyllt a thanau bwriadol, a'u heffaith os bydd pethau'n mynd o chwith, mor bwysig. Rwyf yn falch i weld y gwaith partner gwych hwn gan mai dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.

 

Nid yn unig mae cyfleoedd fel y rhain yn dargyfeirio pobl ifanc oddi wrth hongian o gwmpas y strydoedd yn ystod gwyliau ysgol, maen nhw hefyd yn codi dyheadau ac yn hybu gwaith amhrisiadwy ein gwasanaethau brys."

 

Rhaglen cynhwysiant cymdeithasol yw Dyfodol Cadarnhaol, sy'n defnyddio chwaraeon yn bennaf i ymgysylltu â phobl ifanc a'u cael nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.newportlive.co.uk/en/community-support/community-sport-and-wellbeing/our-projects-programmes-and-initiatives/positive-futures/

 

Dysgwch fwy am gadetiaid diffoddwyr tân: https://www.southwales-fire.gov.uk/youth-education/youth-interventions/fire-cadets/