Helpwch i gadw ffyrdd Gwent yn ddiogel
6ed Chwefror 2023
Mae ymgyrch DRIVE newydd Heddlu Gwent yn eich galluogi chi i riportio unrhyw un rydych chi’n amau sy'n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn ddienw.
Anfonwch neges destun DRIVE at 66777 gyda chymaint â phosibl o'r wybodaeth ganlynol:
- Lleoliad
- Amser
- Gwneuthuriad a model y cerbyd
- Enw'r gyrrwr
- Rhif plât
Cofiwch ffonio 999 bob tro mewn argyfwng.
Yn anffodus, mae Heddlu Gwent wedi gorfod mynd i leoliad nifer o wrthdrawiadau traffig ffyrdd marwol dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd wedi cael eu hachosi'n uniongyrchol gan bobl dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Mae'r gwasanaeth yma’n ffordd gyflym a hawdd i gadw'r ffyrdd yn fwy diogel.
Dysgwch fwy