Gŵyl Yemenïaidd Gymreig
16eg Awst 2022
Ddydd Sul, ynghyd â swyddogion a staff o Heddlu Gwent, aeth fy nhîm i Ŵyl Yemenïaidd Gymreig Cymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd.
Roedd y digwyddiad yn dathlu diwylliant Yemenïaidd a Chymreig gydag amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y gymuned gyfan.
Yn hwyrach yn y dydd gwrandawodd ymwelwyr ar leisiau talentog Côr Cil-y-coed yn atseinio trwy’r parc.
Rwyf yn falch i gefnogi Cymdeithas Cymuned Yemenïaidd Casnewydd. Rwyf yn darparu cyllid ar gyfer sesiynau pêl-droed nos Sadwrn sydd, fel y digwyddiad hwn, yn meithrin ymddiriedaeth a chydberthnasau o fewn y gymuned