Gwobrau hirwasanaeth Heddlu Gwent

11eg Tachwedd 2020

Mae swyddogion a staff Heddlu Gwent sydd wedi gwasanaethu am chwarter canrif wedi cael eu cydnabod mewn seremoni ar-lein arbennig.

Mae'r gwobrau hirwasanaeth yn dathlu swyddogion a staff heddlu sydd wedi gwasanaethu yn y llu am 25 mlynedd.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Jeff Cuthbert: "Mae comisiynwyr heddlu a throseddu'n cael eu hethol gan y cyhoedd i sicrhau eu bod yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl gan eu heddlu. Rwyf yn lwcus, yma yng Ngwent, ein bod yn ffodus i gael swyddogion a staff sydd mor ymroddgar, sy'n gweithio mor galed, ac sy’n ofalus iawn o'r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

"Mae hyn yn fwy amlwg nag erioed yn y ffordd maent wedi ymateb i Covid-19.

"Nid yw plismona mewn pandemig yn hawdd ac rwy'n gwybod bod swyddogion a staff wedi mynd yr ail filltir a thu hwnt i ddisgwyliadau eu swyddi i helpu i gadw ein cymunedau'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.

"Mae pum mlynedd ar hugain yn garreg filltir sylweddol a hoffwn ddiolch i chi, swyddogion a staff, nid yn unig ar fy rhan fy hun ond ar ran pobl Gwent am bopeth rydych wedi ei wneud dros y 25 mlynedd diwethaf, ac am eich gwasanaeth parhaus."