Gwobrau codi arian Shaftesbury Youf Gang
28ain Gorffennaf 2022
Roedd yn bleser gen i fynd i Ganolfan Gymuned Shaftesbury i ddathlu cyflawniadau codi arian gwych Shaftesbury Youf Gang.
Ymunais â rhieni, gwirfoddolwyr, Uchel Siryf Gwent, Arglwydd Raglaw Gwent a Maer Casnewydd.
Cododd pobl ifanc y clwb £1600, a fydd yn cael ei rannu rhwng yr elusen lloches anifeiliaid lleol All Creatures Great and Small a'r elusen Children with Cancer UK.
Mae’r grŵp yn gweithio'n ddiflino i ddarparu gweithgareddau difyr i'r gymuned.
Hoffwn eu cymeradwyo am y gamp ardderchog hon.