Gwent yn sicrhau bron i £750,000 o gyllid ychwanegol i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau yn y gymdogaeth.

25ain Gorffennaf 2022

Bydd Heddlu Gwent yn gweithio gyda grwpiau cymuned ledled ardal y llu yn rhan o gynlluniau i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy amryw o dactegau dargyfeiriol.

Bydd y £746,702 o gronfa Strydoedd Saffach y Swyddfa Gartref yn cael ei ddefnyddio i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau eraill fel byrgleriaeth a dwyn.

Dyma'r swm mwyaf mae'r llu wedi ei dderbyn gan y gronfa Strydoedd Saffach.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio ar draws chwe ardal yng Ngwent - Alway yng Nghasnewydd, Coed-duon, Brynmawr, Cil-y-coed, Cwmbrân a Thredegar.

Yn rhan o'r cais, bydd Heddlu Gwent yn gweithio gyda phartneriaid o'r awdurdod lleol a sefydliadau eraill i gyflwyno camau gyda'r nod o wella diogelwch y cyhoedd.

Meddai Dirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman: "Mae gan bawb hawl i deimlo'n ddiogel yn yr ardaloedd lle maen nhw'n byw, ac rydym yn parhau ein hymrwymiad i amddiffyn a thawelu meddwl ein cymunedau.

“Bydd y cyllid hwn yn hanfodol i gefnogi'r gwaith yma, gan ein galluogi ni a phartneriaid i fuddsoddi mewn addysg a chyfleoedd ymgysylltu a chyflwyno camau pellach i fynd i'r afael â throseddau yn y gymdogaeth.

"Byddwn yn parhau i ddwyn pobl sy'n benderfynol o achosi niwed ac anhrefn yng Ngwent gerbron y llysoedd.

"Ond mae'r cyllid newydd hwn yn ein galluogi ni i fuddsoddi mewn cyfleoedd ymgysylltu ledled ardal y llu er mwyn rhoi cymorth i bobl sydd mewn perygl o gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dyfodol, newid agweddau ac ymddygiad a gwella diogelwch y cyhoedd.

"Mae'r gweithgareddau dargyfeiriol hyn yn mynd â phobl oddi wrth sefyllfaoedd a allai annog ymddygiad afreolus, dysgu pobl am yr effaith y gall eu hymddygiad ei chael ar eu cymdogion a threfi a hybu ymdeimlad o falchder go iawn yn y gymuned.

“Yn ogystal, bydd gosod camerâu CCTV mewn trefi fel Coed-duon yn helpu i wella diogelwch, a bydd dosbarthu pecynnau marcio eiddo a gosod cyfarpar diogelwch cartref yn helpu trigolion i gadw eu hunain, eu hanwyliaid a'u heiddo yn ddiogel.”

Yn rhan o'r cynnig hwn, bydd rhai ardaloedd yn derbyn rhaglenni allgymorth i bobl ifanc a fydd yn cael eu darparu gan weithwyr ieuenctid mewn mannau cyfarfod newydd neu wedi'u hailwampio ar gyfer pobl ifanc, gan roi rhywle diogel iddynt fynd iddo.

Bydd sesiynau ymgysylltu'n cael eu cynnal o'r mannau cyfarfod hyn hefyd, yn ogystal â cherbyd newydd, o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer chwarae gemau.

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jeff Cuthbert, yn arweinydd ar ymddygiad gwrthgymdeithasol i Gymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd. Dywedodd: “Er mwyn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithiol, mae'n rhaid i ni weithio gyda phartneriaid. Bydd y cerbyd gemau symudol yn gweithredu fel pwynt canolog i swyddogion a'n partneriaid ymgysylltu â phobl ifanc, gan gynnig cyngor ac arweiniad, a chodi ymwybyddiaeth am effaith troseddau cyllyll, camddefnyddio sylweddau a fandaliaeth.

"Mae pobl wedi dweud wrthym ni y byddai CCTV yn eu cymunedau'n eu helpu nhw i deimlo'n fwy diogel ac felly bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i osod camerâu CCTV ychwanegol mewn lleoliadau allweddol.

"Rhaid i ni fod yn glir bod mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn gorfod dechrau yn y cartref, ond mae'r cyllid hwn yn rhoi dulliau pellach i ni allu adeiladu ar y gwaith gwych sy'n digwydd eisoes ledled Gwent i amddiffyn ein cymunedau.”

Mae prosiectau Strydoedd Saffach blaenorol a ddarparwyd yng Ngwent wedi cynnwys mwy o gyfarpar diogelwch cartref ym Mhilgwenlli a Rhymni, a chamau i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yng Nghasnewydd a'r Fenni.