Gwent OPCC yn derbyn Siarter Plant

26ain Tachwedd 2020

Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent yw’r Swyddfa Comisiynydd gyntaf yng Nghymru i dderbyn Siarter Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc.

 

Mae’r siarter yn addo ymrwymiad i weithio tuag ar y saith Safon Cyfranogiad Cenedlaethol wrth ymgysylltu a phant a phobl ifanc ac wrth weithio a nhw. Nod y safonau cyfranogiad yw helpu sefydliadau i roi plant wrth galon eu gwaith pan fyddant yn llunio prosesau, cynlluniau a phrosiectau.

 

Roedd Swyddfa Comisiynydd Gwent yn un o ddeg grŵp, gan gynnwys clybiau ieuenctid o bob rhan o Gaerffili, a lwyddodd i gyflawni’r siarter.

 

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert: Rwyf wrth fy modd bod fy swyddfa wedi cyflawni Siarter Safonau Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc. Mae fy nhîm a minnau wedi ymroi i sicrhau bod barn plant a phobl ifanc yn cael ei chlywed wrth lunio cynlluniau a pholisïau, felly rwyf yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod.

 

“Mae fy swyddfa’n gweithio mewn partneriaeth gyda llawer o sefydliadau ieuenctid statudol a gwirfoddol ledled Gwent ac mae’n ariannu llawer o brosiectau ieuenctid sy’n rhoi cefnogaeth sylfaenol i ddargyfeirio cenedlaethau’r dyfodol oddi wrth drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r effaith mae’r prosiectau hyn yn ei gael yn hollbwysig yn amddiffyn a thawelu meddwl cymunedau.

 

“Llofnodi’r siarter yw’r cam cyntaf i gyflawni dyfarniad nod barcud Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol. Bydd y broses nod barcud yn asesu pa mor dda mae fy swyddfa yn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn gwrando arnynt ac yn rhannu gwybodaeth gyda nhw. Rwyf yn hyderus y byddwn yn cyflawni hyn yn y dyfodol.”

 

Roedd arolygwyr ifanc Fforwm Ieuenctid Caerffili yn rhan annatod o ddyfarnu’r siarter hwn. Aeth y tîm ati i asesu’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Swyddfa Comisiynydd Gwent, gan gynnwys y digwyddiad Hawl i Holi Ieuenctid a’r ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ‘Arhoswch Mewn Er Mwyn Gwent’, a arweiniwyd gan bobl ifanc i annog eu cyfoedion i aros gartref a chadw’n ddiogel yn ystod cyfyngiadau symud y gwanwyn.