Gweithio mewn partneriaeth i atal sgamiau

15fed Awst 2024

Mae Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd wedi ymuno â Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, i siarad ag aelodau grŵp Atgofion Chwaraeon Torfaen am sgamiau ar-lein a dros y ffôn.

Mae Atgofion Chwaraeon Torfaen yn grŵp o drigolion, rhai ohonynt â dementia, sy'n cyfarfod i hel atgofion am chwaraeon dros y blynyddoedd. Roedd y grŵp yn pryderu bod aelodau'n derbyn negeseuon testun ac e-byst sgam yn rheolaidd.

Rhoddodd y tîm o Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol, sy'n dîm amlddisgyblaethol o swyddogion heddlu a staff sy'n gweithio i atal seiberdroseddu, wybodaeth am y mathau gwahanol o sgamiau sy'n weithredol yng Ngwent ar hyn o bryd, a rhoddodd gyngor ar sut i osgoi bod yn ddioddefwr.

Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Roedd yn gyfle gwych i weithio mewn partneriaeth â Tarian i godi ymwybyddiaeth o'r nifer o sgamiau a gweithgareddau twyllodrus sy'n amharu’n gyson ar ein cymunedau.

“Mae riportio'r troseddau hyn mor bwysig os ydym am fynd i'r afael â nhw'n llwyddiannus. Os ydych chi'n poeni eich bod chi, neu ffrind neu aelod o'r teulu wedi dioddef sgam, rhowch wybod amdano."

Mae'r Heddlu Metropolitan wedi cynhyrchu llyfryn o'r enw Little Book of Scams. Rhoddwyd copïau o'r llyfr i'r grŵp. O fewn y llyfr mae deg rheol aur i helpu i atal twyll a threchu'r sgamwyr:

  • Byddwch yn amheus o'r holl gynigion a bargeinion 'rhy dda i fod yn wir'. Nid oes unrhyw gynlluniau i fod yn gyfoethog yn gyflym sydd wedi’u gwarantu.
  • Peidiwch â chytuno i gynigion neu fargeinion ar unwaith. Mynnwch amser i gael cyngor annibynnol neu gyfreithiol cyn gwneud penderfyniad.
  • Peidiwch â throsglwyddo arian na llofnodi unrhyw beth nes eich bod wedi gwirio manylion rhywun a’i gwmni.
  • Peidiwch byth ag anfon arian at unrhyw un nad ydych yn ei adnabod neu'n ymddiried ynddo, boed hynny yn y DU neu dramor, na defnyddio dulliau talu nad ydych chi'n gyfforddus â nhw.
  • Peidiwch byth â rhoi manylion banc neu bersonol i unrhyw un nad ydych yn ei adnabod neu'n ymddiried ynddo. Mae'r wybodaeth hon yn werthfawr felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei diogelu.
  • Mewngofnodwch i wefan yn uniongyrchol bob amser yn hytrach na chlicio ar ddolenni mewn e-bost.
  • Peidiwch â dibynnu'n ar adolygiadau sy’n canmol yn unig. Dewch o hyd i dystiolaeth gadarn, annibynnol o lwyddiant cwmni.
  • Dylech bob amser gael cyngor annibynnol neu gyfreithiol os yw cynnig yn cynnwys arian, amser neu ymrwymiad.
  • Os ydych chi'n gweld sgam neu wedi cael eich sgamio, riportiwch ef a chael cymorth.
  • Peidiwch â theimlo cywilydd ynghylch riportio sgam. Mae sgamwyr yn gyfrwys ac yn glyfar felly does dim cywilydd mewn cael eich twyllo. Trwy ei riportio, byddwch yn ei gwneud yn anoddach iddynt dwyllo pobl eraill.

Riportiwch sgamiau a gweithgarwch amheus bob amser.

Action Fraud

  • Ffoniwch 0300 123 2040 Dydd Llun i Ddydd Gwener 8am - 8pm
  • Anfonwch negeseuon testun amheus ymlaen i 7726

Gwiriwch a yw eich data wedi'i ddwyn

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl uniongyrchol neu mewn perygl o niwed ffoniwch 999 bob amser.