Gweithgareddau hanner tymor grymusol i ferched ym Mlaenau Gwent

19eg Ebrill 2022

Yn ystod hanner tymor bu pobl ifanc o Flaenau Gwent yn cymryd rhan mewn Diwrnod y Merched yng Nghanolfan Ieuenctid Abertyleri.

Cynhaliwyd y sesiwn gan Wasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent, Dyfodol Cadarnhaol, Aneurin Leisure, a sefydliadau lleol er mwyn i bobl ifanc gael cyfle i roi cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau.

Nod y diwrnod oedd cynyddu hyder a grymuso pobl ifanc i ddysgu sgiliau newydd mewn amgylchedd diogel.

Rwy’n falch o ariannu Dyfodol Cadarnhaol. Mae'r sefydliad hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i ddarparu sesiynau gwaith ieuenctid ar wahân y mae mawr eu hangen mewn trefi ledled Gwent.

Mae gwaith ieuenctid ar wahân neu waith ieuenctid yn y gymuned yn rhoi wyneb cyfeillgar i bobl ifanc ac yn ffynhonnell ddibynadwy o gymorth a chyngor i bobl ifanc a allai fod mewn perygl o fod yn rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth am sefydliadau y mae fy swyddfa yn eu hariannu: https://www.gwent.pcc.police.uk/cy/y-hyn-rydym-yn-ei-wario/comisiynu/