Galwad cenedlaethol am farn pobl ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched yn ail agor

15fed Mawrth 2021

Mae llywodraeth y DU wedi ail agor ei alwad cenedlaethol am dystiolaeth ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched am bythefnos.

Roedd yr alwad am dystiolaeth, a gaeodd yn wreiddiol ym mis Chwefror, yn cynnwys yr arolwg cyhoeddus cyntaf erioed ar fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched i glywed yn uniongyrchol gan ddioddefwyr a goroeswyr. Bydd yr arolwg hwn yn ail agor hefyd a bydd y canfyddiadau'n llywio Strategaeth Mynd i'r Afael â Thrais yn erbyn Menywod a Merched llywodraeth y DU, sydd i fod i gael ei chyhoeddi yn yr haf.

Mae'r arolwg ar agor i bawb ac mae'n cau ar y 26ain o Fawrth:
https://www.gov.uk/government/consultations/violence-against-women-and-girls-vawg-call-for-evidence