Ffin Dance yn Sefydliad Llanhiledd.

21ain Ebrill 2022

Roeddwn i wrth fy modd yn gweld plant a phobl ifanc o Abertyleri a'r ardaloedd cyfagos yn mwynhau sesiynau Ffin Dance yn Sefydliad Llanhiledd.

Cynhelir y sesiynau wythnosol ar y cyd â'r elusen Off the Streets ac maent yn darparu profiadau creadigol i helpu i lywio plant a phobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn ogystal â chael hwyl gyda'u ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol maen nhw'n dysgu rhywbeth newydd, yn datblygu eu hyder, ac yn gweithio gydag oedolion sy’n esiamplau da cadarnhaol.

Mae mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn flaenoriaeth allweddol yn fy nghynllun heddlu a throseddu. Rwyf wedi ymrwymo i ariannu sefydliadau fel Ffin Dance i helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad negyddol a newid calonnau a meddyliau cenedlaethau'r dyfodol a'u teuluoedd.

Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd, mae llawer o waith yn cael ei wneud gyda'r heddlu, elusennau, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Dysgwch fwy am fy mlaenoriaethau yn y Cynllun Trosedd: https://www.gwent.pcc.police.uk/media/ffgpgwjl/pcp-final-welsh-2021.pdf