Ei Uchelder Brenhinol Iarll Wessex yn agor pencadlys newydd Heddlu Gwent yn swyddogol
11eg Tachwedd 2022
Yr wythnos hon gwnaethom groesawu EUB Iarll Wessex i bencadlys newydd Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.
Cafodd yr Iarll ei dywys o gwmpas yr adeilad a manteisiodd ar y cyfle i gwrdd â phobl ifanc o Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân i drafod eu gwaith.
Rwyf yn rhoi cyllid i Ganolfan Pobl Ifanc Cwmbrân sy'n eu galluogi nhw i agor eu drysau i bobl ifanc bum diwrnod yr wythnos. Mae hyn yn helpu i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref trwy roi rhywle diogel i bobl ifanc fynd i gymdeithasu.
Mae llawer mwy o gymorth ar gael yno hefyd gan gynnwys cymorth emosiynol, addysgol a hyfforddiant sy'n helpu i sicrhau dyfodol mwy hapus ac iach i bobl ifanc.