Dydd y Cofio

11eg Tachwedd 2021

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jeff Cuthbert, wedi nodi Dydd y Cofio mewn seremoni ym Mhencadlys Heddlu Gwent yng Nghwmbrân.

Dywedodd: “Cafodd y Rhyfel Mawr a'r Ail Ryfel Byd effaith ar bob un o'r siroedd sy'n rhan o Went heddiw. Collodd lawer o bobl eu bywydau, gan gynnwys swyddogion heddlu a gafodd eu drafftio i wasanaethu. 

“Mae rhyfeloedd ledled y byd wedi parhau i gyffwrdd ein cymunedau yn y blynyddoedd ers 1945. Mae Gwent yn gartref i lawer o gyn filwyr sydd wedi rhoi eu bywydau mewn perygl yn ymladd dros ein rhyddid. Yn anffodus, ni ddychwelodd llawer ohonynt o gwbl.

"Ni fydd y rhan fwyaf ohonom ni fyth yn gyfarwydd â'r caledi a'r erchyllterau y mae'n rhaid i'n dynion a menywod sy'n gwasanaethu eu dioddef, a diolch am hynny.  Mae'n hollbwysig ein bod yn cydnabod ac yn cofio'r aberth a wnaethant drosom ni.

“Hoffwn ddiolch i'r cyn-filwyr hynny, a'u teuluoedd, am y gwasanaeth pwysig maen nhw wedi ei roi i'w gwlad.