Dwyn Heddlu Gwent i gyfrif
2il Medi 2022
Yr wythnos hon cadeiriais gyfarfod chwarterol y Bwrdd Strategaeth a Pherfformiad, lle rwy'n dwyn y Prif Gwnstabl i gyfrif yn ffurfiol ar ran y cyhoedd.
Gwnaethom graffu ar amryw o fesurau perfformiad ac adroddiadau i sicrhau bod Heddlu Gwent yn darparu gwasanaeth effeithlon ac effeithiol i drigolion.
Gwnaethom adolygu defnydd Heddlu Gwent o stopio a chwilio hefyd, er mwyn sicrhau bod y pwerau hyn yn cael eu defnyddio'n deg ac yn foesegol.
Mae'r holl ddata ac adroddiadau a adolygwyd yn y cyfarfod hwn ar gael ar fy ngwefan.