Dweud eich dweud ar flaenoriaethau plismona Gwent

5ed Awst 2021

Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, yn gofyn i drigolion am eu barn ar blismona lleol.

Defnyddir y wybodaeth i lywio Cynllun Heddlu a Throseddu'r Comisiynydd a fydd yn nodi'r blaenoriaethau strategol ar gyfer plismona yng Ngwent.

Dywedodd Jeff Cuthbert: "Rwyf eisiau gwybod eich barn chi ar beth ddylai blaenoriaethau Heddlu Gwent fod. Rwy'n datblygu fy Nghynllun Heddlu a Throseddu newydd ac mae angen eich help chi arnaf i'w lunio.

"Mae llawer wedi newid ers i mi gynhyrchu fy nghynllun diwethaf yn 2017. Mae'r galw dyddiol ar blismona wedi parhau i gynyddu. Mae'r bygythiad o droseddau difrifol a chyfundrefnol a seiberdroseddu wedi codi. Mae gwell dealltwriaeth o raddfa cam-drin domestig, treisio a thrais rhywiol bellach. Rhaid imi gydbwyso anghenion a phryderon pobl leol â'r bygythiad, y risg a'r niwed posibl i'n cymunedau o'r materion ehangach hyn, gan ystyried anghenion a lles dioddefwyr y troseddau hyn bob amser.

"Ar hyn o bryd rwy'n ystyried y blaenoriaethau canlynol a gynigir ar gyfer Heddlu Gwent:

  • Mynd i'r afael â throseddau difrifol
  • Ysgogi plismona cynaliadwy
  • Cynyddu hyder y gymuned mewn plismona
  • Cadw cymdogaethau'n ddiogel
  • Cynorthwyo dioddefwyr ac amddiffyn y rhai sy'n agored i niwed

"Treuliwch ychydig o amser yn cwblhau'r arolwg a dweud eich dweud. Ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau ac mae'r adborth yn amhrisiadwy."

Cwblhau'r arolwg