Diwrnod Stephen Lawrence
Ar Ebrill 22, 1993, llofruddiwyd Stephen Lawrence, 18 oed, o ddwyrain Llundain, yn greulon mewn ymosodiad hiliol digymell. Cafodd yr achos ei drin yn wael gan yr heddlu ac mae'r ymchwiliad dilynol, a elwir yn Adroddiad Macpherson, wedi datgelu llawer o fethiannau gan gynnwys hiliaeth sefydliadol a llygredd. Cafwyd newidiadau mawr i blismona ledled y DU a daeth hefyd â'r hiliaeth, llygredd, casineb at fenywod a homoffobia a oedd yn bresennol ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ar y pryd i’r amlwg.
O drasiedi ofnadwy llofruddiaeth Stephen daeth y catalydd cadarnhaol ar gyfer newid. Mae cymdeithas yn gyffredinol, a phlismona yn arbennig, wedi dod yn bell yn y 32 mlynedd ers ei farwolaeth. Dyma waddol Stephen. Wrth i ni nodi Diwrnod Stephen Lawrence heddiw, rwyf wedi bod yn ystyried sut y gallaf i chwarae fy rhan i barhau â'r waddol hon a gwneud gwahaniaeth i'n cymunedau.
Roedd llofruddion Stephen wedi'u hysgogi gan gasineb. Cyn yr etholiad fe wnes i ymgyrchu gydag addewid maniffesto i fynd i'r afael â throseddau casineb yn ein cymunedau. Mae lle amlwg i hwn yn fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder sydd newydd ei lansio. Rwyf yn y broses o ddatblygu strategaeth sydd â’r nod o gynyddu hyder cymunedau i riportio problemau i'r heddlu ac, yn hollbwysig, i wella'r ffordd y mae'r heddlu yn ymateb i droseddau sy'n seiliedig ar gasineb. Rwyf am i'n cymunedau fod yn lleoedd lle gall pawb fyw eu bywydau fel nhw eu hunain, heb ofn na niwed. Lle mae pawb yn derbyn ei gilydd gyda gwerthoedd goddefgarwch a pharch. Pan fydd ymddygiad y rhai nad ydynt yn rhannu'r gwerthoedd hyn yn troi’n gasineb, mae'n rhaid i ni gymryd camau cadarn a phriodol. Dyma un o’r heriau yn sgil poblogaeth sy’n tyfu ac sy’n amrywiol, ac mae'n rhaid i blismona wynebu'r her.
Rwy'n gwybod bod gan drigolion lawer o safbwyntiau gwahanol ar Heddlu Gwent. Mae'r rhain yn aml wedi’u ffurfio yn seiliedig ar brofiadau'r gorffennol, da neu ddrwg, ond gallant hefyd gael eu dylanwadu gan lawer o wahaniaethau gan gynnwys oedran, rhywedd, ethnigrwydd, crefydd, neu leoliad. Yr hyn rwy'n ei wybod o siarad â chymaint o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf yw pan fydd trigolion yn cael gwasanaeth effeithlon, effeithiol ac yn anad dim proffesiynol, pan fyddant yn teimlo eu bod wedi cael eu trin â pharch, mae'n ategu eu ffydd a'u hyder yn yr heddlu. Mae hyn yn arwain at riportio mwy o broblemau, casglu mwy o wybodaeth ac, yn y pen draw, atal mwy o droseddau. Mae pawb yn cael gwell gwasanaeth o ganlyniad.
Mae gennym yr hawl i ddisgwyl i'n swyddogion heddlu weithredu gyda'r safonau uchaf o ymddygiad, i ddefnyddio eu pwerau yn gymesur ac yn foesegol, ac i fod yn atebol am eu penderfyniadau. Mae sicrhau bod hyn yn bwyslais i Heddlu Gwent yn flaenoriaeth i mi yn ystod fy nghyfnod yn y swydd. Mae'r Prif Gwnstabl Mark Hobrough wedi ei gwneud yn glir dro ar ôl tro bod hyn hefyd yn flaenoriaeth allweddol iddo ef a'i uwch dîm arweinyddiaeth, a fy ngwaith i yw ei ddwyn i gyfrif i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni. Dros y misoedd nesaf byddaf yn cyflwyno rhaglen graffu a sicrwydd newydd i sicrhau bod y broses hon yn gadarn a'i bod yn fwy tryloyw.
Rydym wedi dod mor bell yn y 32 mlynedd diwethaf ac mae'n rhaid i ni barhau â'r momentwm hwn. Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i wrthsefyll anoddefgarwch a chasineb yn ein cymunedau, i greu ffydd a hyder rhwng ein trigolion a'r heddlu, ac i sicrhau bod ein sefydliadau cyhoeddus yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r safonau uchaf posibl. Dyma beth rydw i wedi ymrwymo iddo yn ystod fy nghyfnod yn y swydd a'r hyn rwy'n anelu at ei gyflawni i bobl Gwent. Dyma waddol Stephen.