Diwrnod Rhyngwladol Dileu Caethwasiaeth

2il Rhagfyr 2020

Mae caethwasiaeth yn drosedd ffiaidd sy’n cam-fanteisio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ac, er i ni ystyried y fath beth yn annhebygol, mae’n dal i fod yn gyffredin yn ein cymunedau heddiw.

Y tebyg yw eich bod chi wedi dod i gysylltiad â dioddefwyr heb sylweddoli hynny, efallai mewn lle golchi ceir neu far ewinedd. Mae’r dioddefwyr hyn yn aml yn dod i’r DU yn sgil addewid o waith â chyflog da a gwell safon byw ond maen nhw’n cael eu gorfodi i weithio am ychydig neu dim arian, a byw mewn amgylchiadau ofnadwy.

Yna mae’r rheini sydd wedi’u masnachu i mewn i’r wlad i weithio i gangiau cyffuriau, y rheini a orfodwyd i mewn i waith rhyw, neu'r rheini sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau, neu broblemau iechyd meddwl, y mae rhai yn manteisio arnyn nhw er mwyn elwa eu hunain.

Yn gynharach eleni, cyn i gyfyngiadau Covid gael eu cyflwyno, fe wnes i ymweld â phrosiect a ariennir gan fy swyddfa o’r enw ‘Sanctuary’. Mae’r ‘Sanctuary’ yn darparu cymorth a chyngor i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Fe gwrddais â bachgen ifanc oedd wedi’i fasnachu i’r DU i weithio ar ffermydd canabis. Wrth ei wylio yn chwarae ar yr Xbox gyda’i ffrindiau, ni fyddech chi byth yn dychmygu’r pethau dychrynllyd y bu trwyddyn nhw. Yn anffodus, mae gormod o bobl fel ef yng Nghymru a ledled y DU.

Fi sy’n arwain Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru ar gaethwasiaeth fodern ac rwy’n falch ein bod ni, yma yng Ngwent, wedi cymryd camau breision i fynd i’r afael â’r broblem hon. Heddlu Gwent oedd yr heddlu cyntaf yng Nghymru i greu tîm penodedig i archwilio caethwasiaeth fodern ac mae hyn yn cynnwys Eiriolwr penodedig ar gyfer Dioddefwyr Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl i sicrhau bod dioddefwyr y drosedd ofnadwy hon yn cael y cymorth y maen nhw ei angen.

Fodd bynnag, nid yr heddlu yn unig sy’n gyfrifol am fynd i’r afael â chaethwasiaeth. Os ydych chi’n amau bod caethwasiaeth fodern yn digwydd, yn amau bod rhywbeth o’i le, neu os oes gennych bryderon ynghylch rhywun, rhowch wybod cyn gynted â phosibl.

Mae rhai o’r arwyddion i edrych amdanyn nhw yn cynnwys:

  • cyswllt teuluol cyfyngedig
  • cam-drin corfforol / edrych fel pe bai heb gael digon o faeth
  • drwgdybio awdurdod
  • bod heb ffrindiau
  • ymddwyn fel pe bai o dan reolaeth rhywun arall
  • wedi drysu
  • yn osgoi cyswllt llygad
  • methu siarad gair o Saesneg

 

Os ydych chi’n amau y gallai rhywun fod yn ddioddefwr ffoniwch Heddlu Gwent ar 101. Mewn argyfwng dylech ffonio 999 bob tro.