Diwrnod Rhuban Gwyn 2024
Bob blwyddyn, mae o leiaf un o bob 12 menyw a merch yn y DU yn dioddef trais neu gamdriniaeth.
Mae hyn yn ôl adroddiad diweddar gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu a'r Coleg Plismona. Yn seiliedig ar y ffigyrau poblogaeth amcangyfrifedig ar gyfer Gwent, mae hyn yn golygu y bydd rhyw 25,000 o fenywod a merched yn dioddef ymddygiad treisgar a chamdriniaeth yn ein cymunedau bob blwyddyn.
Roedd mynd i'r afael â thrais a chamdriniaeth yn erbyn menywod a merched yn un o'r addewidion yn fy maniffesto pan gefais fy ethol, a bydd yn rhan amlwg o'r Cynllun Heddlu a Throsedd rwyf yn ei ddatblygu a fydd yn amlinellu fy mlaenoriaethau ar gyfer fy nghyfnod yn y swydd.
Rydyn ni'n gwybod y bydd llawer o'r troseddau yma'n digwydd heb gael eu riportio, ac rydyn ni'n gwybod y bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu cyflawni gan ddynion. Wrth gwrs, mae dynion yn gallu dioddef camdriniaeth hefyd, ac mae fy swyddfa'n rhoi cyllid i wasanaethau arbenigol sy'n rhoi cymorth i ddioddefwyr gwrywaidd. Serch hynny, ni allwn guddio rhag y ffaith bod y troseddau yma'n cael eu cyflawni'n bennaf gan ddynion yn erbyn menywod, ac fel cymdeithas mae'n rhaid i ni beidio â gwneud esgusodion dros ymddygiad ac agweddau gwael tuag at fenywod a merched.
Rwyf yn bryderus iawn am boblogrwydd cynyddol dylanwadwyr ffiaidd sy'n dangos casineb at fenywod ar-lein a'r effaith maent yn ei chael ar feddyliau pobl ifanc am yr hyn sy’n ymddygiad derbyniol ac yn ymddygiad annerbyniol. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwerthoedd cadarnhaol i'n plant, trwy gydol eu blynyddoedd ffurfiannol, i helpu i fynd i'r afael â'r problemau yma ac rwyf yn falch iawn i fod yn rhoi cyllid i gynllun peilot yn ein hysgolion i annog bechgyn a dynion ifanc i edrych ar eu hagweddau a'u hymddygiad tuag at fenywod.
Yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd rwyf yn bwriadu defnyddio'r holl bŵer sydd ar gael i mi i weithio gyda Heddlu Gwent a phartneriaid ehangach i weithredu er mwyn gwella profiad menywod a merched yma yng Ngwent.
I nodi Diwrnod Rhuban Gwyn eleni (dydd Llun 25 Tachwedd) rwyf wedi gweithio gyda Gallery 57 yng Nghasnewydd i ddod ag arddangosfa gelf bwerus i bencadlys Heddlu Gwent sy'n archwilio themâu trais, camdriniaeth, casineb tuag at fenywod, a beio dioddefwyr.
Crëwyd y casgliad 'Words Matter' yn wreiddiol ar gyfer y sefydliad ymgyrchu This Ends Now i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ym mis Mawrth eleni. Mae'n gasgliad sy'n gwneud i chi feddwl am agwedd cymdeithas heddiw tuag at fenywod a merched, ac yn ysgogi'r sgyrsiau y mae angen i sefydliadau cyhoeddus a'r trydydd sector eu cael os ydyn ni o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r problemau yma yn ein cymunedau.
Rwyf yn falch i gefnogi Diwrnod Rhuban Gwyn ac rwy'n addo mynd i'r afael â'r felltith yma yn ein cymdeithas. Os ydych chi wedi profi camdriniaeth, da chi dywedwch wrth rywun. Os nad ydych chi'n teimlo y gallwch chi siarad â'r heddlu, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, sydd ar gael 24/7 i gael cyngor a chymorth.
Cysylltwch â Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu ewch i www.gov.wales/live-fear-free