Diwrnod Rhuban Gwyn 2023
24ain Tachwedd 2023
White Ribbon yw prif elusen y DU sy'n ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn dod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.
Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ddigwyddiad blynyddol sy'n cael ei gynnal i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod.
Eleni mae Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn 25 Tachwedd a'r thema yw '#NewidYStori', gyda'r nod o wrthdroi'r naratif mai menywod a merched sy'n gyfrifol am fygythiadau i'w diogelwch eu hunain.
Mae'r rhan fwyaf o drais yn erbyn menywod yn cael ei gyflawni gan ddynion. Mae menywod a merched yn byw gydag ofn trais gan ddynion nad yw dynion yn ei brofi yn yr un ffordd.
Er enghraifft:
- Mae un allan o bob pedair merch mewn ysgolion cymysgryw wedi cael profiad o gyffwrdd rhywiol dieisiau yn yr ysgol.
- Mae chwech allan o bob 10 o ferched wedi profi aflonyddu gan ddyn yn y gampfa.
- Yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 roedd 1.7 miliwn o ferched wedi profi cam-drin domestig.
Yn ystod y cyfnod yn arwain at Ddiwrnod Rhuban Gwyn mae staff y swyddfa wedi mynd â sioe deithiol o gwmpas lleoliadau Coleg Gwent ym mhob un o'r pum sir. Mae'r tîm wedi siarad â channoedd o fyfyrwyr, yn eu hannog nhw i addo eu cefnogaeth i ddileu trais yn erbyn menywod a merched, a'u cyfeirio nhw at wasanaethau cymorth. Maen nhw wedi darparu sesiynau gwib mewn archfarchnadoedd ledled Gwent hefyd.
Yn dilyn Diwrnod Rhuban Gwyn ddydd Sadwrn mae 16 diwrnod o weithredu lle gallwch barhau i ddangos eich cefnogaeth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Rhuban Gwyn.
Gall dioddefwyr cam-drin domestig neu drais rhywiol gysylltu â Byw Heb Ofn, gwasanaeth am ddim a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Ewch i wefan Byw Heb Ofn neu ffoniwch 0808 8010 800.