Disgyblion Ysgol Gynradd Llyswyry yn holi'r Comisiynydd

3ydd Ebrill 2025

Cafodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd ei holi gan uned Heddlu Bach Ysgol Gynradd Llyswyry.

Gofynnwyd amrywiaeth eang o gwestiynau i'r Comisiynydd o 'Beth yw eich hoff beth a'ch cas beth am eich swydd?' i 'Beth sy'n cael ei wneud i ymdrin â throseddau gangiau yng Ngwent?'

Yn ystod y sesiwn siaradodd disgyblion am yr ardaloedd yn eu cymuned lle maen nhw'n teimlo'n ddiogel a rhai o'r ardaloedd lle maen nhw'n teimlo'n anniogel.

Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Gwnaeth aeddfedrwydd y disgyblion ac ehangder y pynciau y gwnaethom ni eu trafod argraff fawr arnaf.

“Roedden nhw'n awyddus i ddeall sut rwyf i a Heddlu Gwent yn mynd i roi sylw i broblemau fel troseddau gangiau, troseddau cyllyll a seiberdroseddau. Mae gwrando arnyn nhw'n siarad yn agored am y problemau yma wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol i wneud popeth o fewn fy ngallu i ymdrin â nhw yn ein cymunedau.

“Mae fy Nghynllun Heddlu, Trosedd a Chyfiawnder, sydd newydd gael ei lansio, yn amlinellu sut byddaf yn ceisio gwneud Gwent yn lle mwy diogel i'n preswylwyr. Mae hyn yn cynnwys gwella plismona cymdogaeth, a sicrhau bod swyddogion a swyddogion cefnogi cymuned yn fwy gweladwy. Rwy'n credu y bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'n cymunedau.”