Disgyblion Maendy'n rhannu eu gobeithion a'u hofnau

20fed Rhagfyr 2021

Fe wnaeth disgyblion Roma o ysgol Gynradd Maendy, Casnewydd gwrdd â Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd Eleri Thomas a Chomisiynydd Plant Cymru Sally Holland i siarad am eu gobeithion a'u hofnau.

 

Datgelodd y sesiwn, dan arweiniad Comisiynydd Plant Cymru, sy’n llysgennad Hawliau Plant ba mor ddiogel y mae disgyblion Roma yn teimlo yn eu cymuned.

 

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i gael eu lleisiau wedi’u clywed ac i deimlo'n ddiogel fel y nodwyd yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.

 

Mynegodd y disgyblion eu cariad tuag at yr ysgol a'u hymweliadau rheolaidd â Tŷ Cymunedol.

 

Drwy sgyrsiau gonest ac agored, mynegodd llawer o'r plant fod arnyn nhw ofn materion fel defnyddio a chyflenwi cyffuriau yn y gymuned.

 

Soniodd y plant am brofiadau gwahaniaethu a cham-drin hiliol. Soniodd llawer o ddisgyblion am brofiadau iaith gasineb mewn parciau ac ardaloedd chwarae, mannau lle dylen nhw deimlo'n ddiogel.

 

Cytunodd y grŵp i gyd mai un o'u gobeithion ar gyfer y dyfodol yw y dylid trin pawb yn gyfartal a gyda pharch.

 

Mae gan Ysgol Gynradd Maendy rwydwaith cymorth cadarn o staff sy'n gweithio'n agos gyda sefydliadau lleol a chenedlaethol gan gynnwys Dyfodol Cadarnhaol, y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Levelling the Playing Field a Tŷ Cymunedol i fynd i'r afael â'r materion a godwyd.

 

Mae'r ysgol, disgyblion a'u teuluoedd yn cyfarfod yn rheolaidd â thîm cymdogaeth lleol Heddlu Gwent ac wedi datblygu cynllun Safe Faces. Mae Safe Faces yn helpu disgyblion a'u teuluoedd i ddod i adnabod swyddogion lleol i fagu hyder ac ymddiriedaeth ymhlith cymunedau ac annog adrodd am faterion fel troseddau casineb.

 

Dywedodd Dirprwy Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Eleri Thomas: “Hoffwn ddiolch i'r holl blant am eu dewrder a'u gonestrwydd.

 

“Roedd bod yn agored ynglŷn â’u meddyliau a'u hofnau yn procio meddwl yn fawr. Mae'n amlwg bod angen gweithredu i'w helpu i deimlo'n ddiogel a'u diogelu.

 

“Dim ond drwy weithio mewn partneriaeth â phrosiectau a ariennir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd, awdurdodau lleol, Heddlu Gwent a Chomisiynydd Plant Cymru i gyflawni hawl pob plentyn i deimlo'n ddiogel y gellir cyflawni hyn.

 

“Hoffwn ddiolch i dimau cymdogaeth a NXT Gen Heddlu Gwent am eu cefnogaeth barhaus i helpu i chwalu rhwystrau o fewn y gymuned.”

Meddai’r Comisiynydd Plant, Sally Holland: ‘Siaradodd y plant yn glir ac yn angerddol am y rhwystrau maen nhw a’u teuluoedd yn eu hwynebu bob dydd yn y gymuned, a’r cymorth maen nhw’n ei dderbyn gan yr ysgol bob dydd i frwydro yn erbyn y rhwystrau hyn.

"Byddaf yn edrych yn fanwl ar y materion a godwyd ganddynt ac yn cadw cysylltiad gyda’r plant.’