Dathlu mis Treftadaeth De Asia

12fed Awst 2022

Yr wythnos hon, cymerodd fy nhîm ran mewn gweithdy coginio i ddathlu mis Treftadaeth De Asia.

Ymunodd swyddogion o Heddlu Gwent, Uwchgapten Pete Harrison, a Jessica Dunrod o Amgueddfa Genedlaethol Cymru â Rakhel Smith, trigolyn lleol o Gasnewydd o dras Pakistani mewn gweithdy rhyngweithiol i ddeall mwy am ddiwylliant De Asia.

Torchodd y cyfranogwyr eu llewys am ddosbarth feistr coginio, lle gwnaethon nhw fwyd cwrs cyntaf  De Asiaidd dan lygad barcud Rakhel.

Yn ddiweddarach cymerodd y grŵp ran mewn cwis a brofodd eu gwybodaeth am gyri De Asia ac yna daethant at ei gilydd am bryd o fwyd lle atebodd Rakhel gwestiynau gan gyfranogion.

Mae gwrando, deall a dysgu oddi wrth ein holl gymunedau wrth wraidd cydlyniad cymunedol effeithiol.

Rwy’n gobeithio bod mwy o sesiynau yn cael eu cynllunio yn y dyfodol i helpu i chwalu rhwystrau a meithrin ymddiriedaeth rhwng Heddlu Gwent a’n cymunedau amrywiol.