Dathliadau yn Nhŷ Cymunedol Bryn Farm
Ymunodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gwent, Jane Mudd, gyda phobl ifanc a'u teuluoedd yn Nhŷ Cymunedol Bryn Farm ym Mrynmawr i ddathlu ymroddiad ardderchog gwirfoddolwyr.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddadorchuddio murlun newydd a gafodd ei ddylunio a'i baentio gan blant a phobl ifanc gyda chymorth arlunydd lleol, Shanti Ray. Cafodd ei baentio fel rhan o brosiect Brynmawr Interact, sy'n derbyn cyllid gan Swyddfa'r Comisiynydd i roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ddysgu sgiliau newydd.
Cafodd y Comisiynydd weld yr ardd gymunedol newydd hefyd, sydd wedi helpu i roi ymdeimlad o'r awyr agored i bobl ifanc a'u dysgu am bwysigrwydd bwyd ac o ble mae bwyd yn dod.
Dywedodd Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Jane Mudd: "Mae Tŷ Cymunedol Bryn Farm yn darparu man diogel a hapus i'r gymuned, ac mae gwirfoddolwyr Brynmawr Interact yn gaffaeliad i'r ardal.
"Rwyf yn falch bod fy Nghronfa Gymunedol yr Heddlu'n cefnogi rhai o'r mentrau sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ym Mrynmawr, yn annog y gymuned i ddysgu sgiliau newydd a chodi dyheadau.
"Rwyf yn edrych ymlaen at ddychwelyd cyn bo hir i roi help llaw yn yr ardd gymunedol."