Cynllun i annog perchnogaeth cŵn cyfrifol wedi'i lansio ledled Gwent
Mae Heddlu Gwent wedi cyflwyno ei fenter Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn (LEAD) ledled ardaloedd cynghorau Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.
Lansiwyd menter LEAD yng Nghaerffili yn 2023 ac mae'n hybu perchnogaeth cŵn cyfrifol, gyda llwybr clir o orfodaeth i berchnogion anghyfrifol.
Mae'n ddull partneriaeth o ymdrin â diogelwch cymunedol, sy’n cynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, gan eu galluogi nhw i rannu gwybodaeth a rhoi amryw o fesurau ar waith fel llythyrau rhybudd, contractau ymddygiad derbyniol a chamau gorfodi ble y bo'n briodol.
Mae LEAD wedi’i gydnabod yn genedlaethol fel yr arfer gorau ar gyfer hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol a'i nod yw cadw pobl yn ddiogel a sicrhau bod cŵn yn derbyn gofal ac nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy'n peri niwed.
Meddai Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, Jane Mudd: “Rwyf yn falch o weld LEAD yn cael ei gyflwyno ym mhob ardal awdurdod lleol yng Ngwent. Er bod y rhan fwyaf o berchnogion cŵn yn edrych ar ôl eu hanifeiliaid anwes yn gyfrifol, rhaid i ni anfon neges glir at y lleiafrif o berchnogion anghyfrifol na fydd eu hymddygiad yn cael ei oddef.
“Mae'n enghraifft o'r heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid diogelwch cymunedol yn cydweithio i wneud gwahaniaeth a mynd i'r afael â phroblem yr ydym yn gwybod sy'n peri pryder i'n preswylwyr.
“Yn ddiweddar cefais gyfle i gwrdd â theuluoedd Jack Lis a Shirley Patrick, y bu'r ddau ohonynt farw'n drychinebus yn dilyn ymosodiadau gan gŵn yng Ngwent. Mae'r teuluoedd wedi bod trwy'r peth gwaethaf y gellir ei ddychmygu, a rhaid i mi ganmol y dewrder maent wedi ei ddangos yn ymgyrchu i gael newid i'r cyfreithiau sy’n ymwneud â pherchnogaeth cŵn. Mae LEAD yn dod â'r heddlu, awdurdodau lleol a phartneriaid at ei gilydd i gydweithio gyda'n cymunedau i rwystro trychinebau fel hyn rhag digwydd yn y dyfodol.
Os oes gennych chi bryderon am gŵn yn eich cymuned, dywedwch wrth eich cyngor lleol, neu Heddlu Gwent os yw'n argyfwng.”
I gael mwy o wybodaeth am LEAD, ewch i Wefan Heddlu Gwent.
Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu hannog i ffonio'r awdurdod lleol am gŵn swnllyd, baw cŵn, bridio anghyfreithlon neu gŵn crwydr.
Ffoniwch Heddlu Gwent ar 101, neu anfonwch neges drwy Facebook neu X am fridiau anghyfreithlon, ymladd cŵn wedi'u trefnu, cŵn peryglus neu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyda chŵn.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.