Cynllun grant ar gael i gefnogi'r rhai sydd wedi dioddef Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

25ain Hydref 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun grant gwerth £200,000 i unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy'n cynnal gweithgareddau gyda phobl y mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn effeithio arnynt, wedi effeithio arnynt.

Nod y cynllun yw atgyfnerthu mentrau sy'n cefnogi unigolion sy'n tyfu i fyny neu sy'n byw mewn cartrefi lle ceir cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau, yn ogystal â'r rhai sy'n darparu cymorth ymarferol i deuluoedd i'w helpu i ddelio â materion megis materion ariannol y teulu neu rianta i wella gwydnwch. Yn ogystal, gellir defnyddio'r cyllid i gefnogi unigolion neu sefydliadau sy'n cyflwyno gweithgareddau i wella iechyd meddyliol a chorfforol, neu weithgareddau sy'n annog cymunedau i ddod at ei gilydd i feithrin eu cryfder a chefnogi ei gilydd.

Mae'r cynllun grant, a fydd yn derbyn ceisiadau o 25 Hydref 2021 ymlaen, yn darparu cyllid ar draws pedair ffrwd ar wahân:

  1. Hyd at £200 i grwpiau anghyfansoddiadol heb gyfrif banc grŵp
  2. Hyd at £500 i grwpiau anghyfansoddiadol â chyfrif banc grŵp
  3. Hyd at £20,000 i grwpiau cyfansoddiadol â chyfrif banc
  4. Hyd at £30,000 i gonsortiwm

Mae'r broses ymgeisio ei hun yn cael ei rheoli gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. I gael manylion llawn a chanllawiau, neu i wneud cais i gofrestru am y cynllun, ewch i:

https://policeandcrimecommissionerforsouthwales.flexigrant.com/

Os ydych chi'n cael trafferth defnyddio'r system, cysylltwch â Rosie Stride:

rosie.stride@south.wales.police.co.uk, neu ffoniwch 01656 869366

Dylid anfon unrhyw ymholiadau cyffredinol am y gronfa drwy e-bost i: FUNDING@south-wales.police.uk

Ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 y mae'r cynllun ar gael a rhaid gwario'r grantiau i gyd erbyn 31 Mawrth 2022.