Cynllun ehangu i wella ymateb i RASSO
Bydd Heddlu Gwent yn un o 14 o wasanaethau i gymryd rhan mewn prosiect a gynlluniwyd i weddnewid ymateb yr heddlu i drais a throseddau rhywiol difrifol (RASSO).
Mae’r cynllun ehangu, a elwir yn Ymgyrch Soteria Bluestone, yn rhaglen ymchwil a newid wedi’i hariannu gan y Swyddfa Gartref wedi’i harwain gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ac mae’n cynnwys gwasanaethau heddlu yn gweithio gydag academyddion arweiniol yn y maes hwn.
Ei nod, ynghyd â gwella ymateb yr heddlu i’r troseddau hyn, yw creu model gweithredu cenedlaethol a fydd yn cael ei gyflwyno i’r 43 o wasanaethau heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Bydd swyddogaeth Gwent yn y rhaglen ehangu yn dechrau gyda hunanasesiad â chymorth a fydd yn dechrau ym mis Hydref, i adolygu’r arferion presennol o’u cymharu â chanfyddiadau ymchwil yr ymgyrch hyd yn hyn.
Bydd dealltwriaeth a geir o’r adolygiad hwn yn ffurfio cynllun gwella a fydd yn caniatáu i swyddogion gymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu a datblygu uwch, derbyn arweiniad arbenigol a chymorth gan gymheiriaid o rwydwaith dysgu cenedlaethol yr ymgyrch.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Pam Kelly: “Mae trais yn un o’r troseddau mwyaf cymhleth a heriol yr ydym yn ymdrin â nhw yn y system cyfiawnder troseddol.
“Mae ein swyddogion wedi ymrwymo i gyflawni’r canlyniadau gorau i ddioddefwyr ac yn ceisio gwella’n barhaus, ond rydym yn cydnabod bod angen gwelliannau i fynd i’r afael â’r cyfraddau euogfarn isel.
“Mae Ymgyrch Soteria yn gyfle i gyflawni newid gwirioneddol a chynaliadwy drwy edrych yn onest yn agored ar sut rydym yn gweithio yn ein sefydliad ein hunain, ochr yn ochr â’r system cyfiawnder troseddol ehangach a gwasanaethau cymorth i droseddwyr.
“Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag academyddion i wella profiad dioddefwyr a thynhau ein gafael ar droseddwyr.
“Trwy fabwysiadu’n gynnar rydym yn edrych ymlaen at ategu’r gwaith rydym yn ei wneud eisoes yn y maes hwn i gyflawni’r ymateb a’r cymorth gorau posibl ar draws y system cyfiawnder troseddol.”
Mae’r meysydd ffocws allweddol wedi’u llywio gan astudiaethau academaidd, ymchwil manwl a chynlluniau treialu gyda heddluoedd arwain y ffordd.
Mae themâu yn cynnwys ymchwiliadau â phwyslais ar y rhai hynny a ddrwgdybir, adnabod ad-droseddwyr neu droseddwyr mynych, ymgysylltu â dioddefwyr, dysgu, datblygu a lles swyddogion, gwella defnydd o ddata a gwaith fforensig digidol.
Dywedodd y Comisiynydd Heddlu a Throsedd Jeff Cuthbert: “Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr troseddau yn cael y gwasanaeth gorau posibl gan eu heddlu ac rwy’n falch bod Heddlu Gwent yn un o’r 14 o heddluoedd diweddaraf i ymuno ag Ymgyrch Soteria Bluestone.
“Rydym yn cydnabod nad datrysiad dros nos yw hyn, ond mae’n gyfle i gyflawni newid gwirioneddol a chynaliadwy i sut mae’r troseddau trallodus hyn yn cael eu plismona.”
Cafodd Ymgyrch Soteria Bluestone ei threialu’n gyntaf yn Heddlu Avon a Somerset ar ddechrau 2021, mewn ymateb i adolygiad o ben i ben y llywodraeth i drais.
Bydd y rhaglen ehangu yn ychwanegu at y gwersi a ddysgwyd o’r pum heddlu gweithredol cychwynnol, sef y Gwasanaeth Heddlu Metropolitan, Cwnstabliaeth Durham, Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr a Heddlu De Cymru.
Y gwasanaethau a fydd yn rhan o’r rhaglen ehangu ochr yn ochr â Heddlu Gwent yw: Dyfnaint a Chernyw, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru, Northumbria, Swydd Gaerloyw, Swydd Warwick, Swydd Gaerhirfryn, Manceinion Fwyaf, Hampshire, Wiltshire, Kent, Dorset a Sussex.